RHAN 10CYFFREDINOL
I1172Gorchmynion a rheoliadau
1
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud onid oes drafft o'r gorchymyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
a
rheoliadau o dan adran 9(1)(i), Rhan 2, adran 140, 165 neu 166(2) ;
b
gorchymyn o dan adran 127, 158, 162 neu 170;
c
gorchymyn yn diwygio gorchymyn o dan adran 162;
d
gorchymyn o dan adran 177 sy'n cynnwys addasiadau i ddeddfiad (ac eithrio deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth).
3
O ran gofynion ychwanegol mewn perthynas â Gweinidogion Cymru'n gwneud gorchmynion o dan adrannau 127 a 162, gweler adrannau 173 a 169 yn ôl eu trefn.
4
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 178 (cychwyn), yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
5
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn i gymhwyso deddfiad yn bŵer i'w gymhwyso gydag addasiadau neu hebddynt.
6
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer (ond heb fod yn gyfyngedig iddo)—
a
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;
b
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
c
i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, drosiannol, ddarfodol, ganlyniadol, arbed, gysylltiedig a darpariaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol.