RHAN 10CYFFREDINOL
I1173Y weithdrefn sy'n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r adran hon cyn gwneud gorchymyn o dan adran 127 i roi effaith i gynigion i addasu deddfiad y maent o'r farn ei fod yn atal neu'n rhwystro cynghorau cymuned rhag arfer eu pŵer o dan adran 2(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y cynigion”).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—
a
unrhyw gynghorau cymuned,
b
unrhyw gynrychiolwyr cynghorau cymuned, ac
c
unrhyw bersonau eraill (os oes rhai),
y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru y byddai'r cynigion yn debyg o effeithio arnynt.
3
Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl yr ymgynghori hwnnw, yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynigion, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddogfen—
a
sy'n esbonio'r cynigion,
b
sy'n eu gosod ar ffurf gorchymyn drafft, a
c
sy'n rhoi manylion yr ymgynghori o dan is-adran (2).
4
Ni chaiff drafft o orchymyn o dan adran 127 i roi effaith i'r cynigion (“y gorchymyn drafft terfynol”) gael ei osod gerbron y Cynulliad yn unol ag adran 172(2)(b) tan ar ôl i'r cyfnod o 60 niwrnod, sy'n dechrau ar y diwrnod y cafodd y ddogfen ynglŷn â'r cynigion ei gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3), ddirwyn i ben.
5
Wrth gyfrifo'r cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4), rhaid peidio ag ystyried unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.
6
Wrth baratoi'r gorchymyn drafft terfynol rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod a grybwyllwyd yn is-adran (4).
7
Os caiff y gorchymyn drafft terfynol ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 172(2)(b), rhaid bod gyda'r gorchymyn ddatganiad gan Weinidogion Cymru sy'n rhoi manylion—
a
unrhyw sylwadau a ystyriwyd yn unol ag is-adran (6), a
b
unrhyw newidiadau a wnaed i'r cynigion a oedd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-adran (3) ac y mae effaith wedi ei rhoi iddynt yn y gorchymyn drafft terfynol.
8
Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gymwys i orchymyn o dan adran 127 sydd wedi'i wneud yn unswydd at y diben o ddiwygio gorchymyn cynharach o dan yr adran honno—
a
fel ei fod yn ymestyn y gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, i gyngor cymuned penodol neu i gynghorau cymuned o ddisgrifiad penodol, neu
b
fel bod y gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, yn peidio â bod yn gymwys i gyngor cymuned penodol neu i gynghorau cymuned o ddisgrifiad penodol.