Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

174Canllawiau a chyfarwyddiadau

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r cyfarwyddiadau a roddwyd.

(3)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.

(4)Nid yw is-adrannau (1) i (3) yn cyfyngu ar y pwerau o dan y Mesur hwn i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau.