RHAN 10CYFFREDINOL
I1177Y pŵer i wneud darpariaeth atodol
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol ac arbed y maent o'r farn eu bod yn briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn.
2
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (1) yn cynnwys addasiadau i unrhyw ddeddfiad (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).
3
Mae'r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn ychwanegol at y rhai a wnaed neu y caniateir eu gwneud o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn.