RHAN 10CYFFREDINOL
178Cychwyn
(1)
Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—
(a)
adrannau 58, 77, 79, 80 a 159;
(b)
y Rhan hon (ac eithrio adran 176);
(c)
Rhan E o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan E o Atodlen 4).
(2)
Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—
(a)
Rhannau 3 a 4;
(b)
adran 55 ac adran 76;
(c)
Penodau 2 i 9 o Ran 7;
(d)
Rhannau B ac C o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhannau B ac C o Atodlen 4).
(3)
Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), daw'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.