RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 2GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL

I119Adroddiadau ac argymhellion gan bwyllgorau gwasanaethau democrataidd

1

Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ar gyfer awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo lunio adroddiad neu wneud argymhelliad o dan adran 11(1)(c) F1neu 11A(2) , drefnu bod copi ohono'n cael ei anfon at bob aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod o'r pwyllgor.

2

Rhaid i awdurdod lleol ystyried unrhyw adroddiad neu argymhellion mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn fwy na thri mis ar ôl i gopïau o'r adroddiad neu'r argymhelliad gael eu hanfon gyntaf at aelodau'r awdurdod.