Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

19Adroddiadau ac argymhellion gan bwyllgorau gwasanaethau democrataiddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i bwyllgor gwasanaethau democrataidd ar gyfer awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo lunio adroddiad neu wneud argymhelliad o dan adran 11(1)(c) [F1neu 11A(2)] , drefnu bod copi ohono'n cael ei anfon at bob aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod o'r pwyllgor.

(2)Rhaid i awdurdod lleol ystyried unrhyw adroddiad neu argymhellion mewn cyfarfod a gynhelir heb fod yn fwy na thri mis ar ôl i gopïau o'r adroddiad neu'r argymhelliad gael eu hanfon gyntaf at aelodau'r awdurdod.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)