23Yr hawl i absenoldeb teuluolLL+C
(1)Caiff aelod o awdurdod lleol a chanddo hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol fod yn absennol o gyfarfodydd o'r awdurdod yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb teuluol.
(2)Os aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol yw'r aelod, caiff yr aelod fod yn absennol o gyfarfodydd o'r weithrediaeth yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb teuluol.
(3)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i reoliadau o dan y Rhan hon.
(4)At ddibenion y Rhan hon, mae gan aelod hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol os oes gan yr aelod hawl i gyfnod—
(a)o absenoldeb mamolaeth (gweler adran 24),
(b)o absenoldeb newydd-anedig (gweler adran 25),
(c)o absenoldeb mabwysiadydd (gweler adran 26),
(d)o absenoldeb mabwysiadu newydd (gweler adran 27), neu
(e)o absenoldeb rhiant (gweler adran 28).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)