RHAN 2LL+CABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL

26Absenoldeb mabwysiadyddLL+C

(1)Mae gan aelod o awdurdod lleol hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mabwysiadydd”) os yw'r aelod yn bodloni amodau rhagnodedig o ran mabwysiadu plentyn.

(2)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mabwysiadydd mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Caiff rheoliadau ganiatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.

(5)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd, neu

(b)diddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)