RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL

27Absenoldeb mabwysiadu newydd

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig—

(a)

o ran perthynas â phlentyn a gafodd ei leoli, neu y disgwylir iddo gael ei leoli, ar gyfer ei fabwysiadu o dan gyfraith unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, a

(b)

o ran perthynas â pherson y lleolir y plentyn gydag ef, neu y disgwylir iddo gael ei leoli gydag ef, ar gyfer ei fabwysiadu.

(2)

Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mabwysiadu newydd”) at ddibenion—

(a)

gofalu am y plentyn, neu

(b)

cynorthwyo'r person y mae'r aelod o'i herwydd yn bodloni'r amod o dan is-adran (1)(b).

(3)

Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)

i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)

pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd.

F1(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)

Rhaid i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i absenoldeb mabwysiadu newydd gael ei gymryd cyn diwedd cyfnod rhagnodedig.

F2(6)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(7)

Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)

terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd, neu

(b)

diddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd.

(8)

Caiff rheoliadau—

(a)

(at ddibenion is-adran (2)) ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud at ddibenion gofalu am blentyn neu gynorthwyo person y lleolir plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu;

(b)

caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd yn dechrau;

(c)

gwneud darpariaeth sy'n eithrio'r hawl i fod yn absennol o dan yr adran hon yn achos aelod sy'n arfer hawl i fod yn absennol oherwydd absenoldeb mabwysiadu;

(d)

gwneud darpariaeth sy'n eithrio hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn pan leolir mwy nag un plentyn ar gyfer ei fabwysiadu fel rhan o'r un trefniant;

(e)

gwneud darpariaeth ynghylch sut y ceir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd.

F3(9)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4(10)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(11)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod yr adran hon yn gymwys mewn perthynas ag achosion sy'n ymwneud â mabwysiadu, ond nid â lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan gyfraith unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.