RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL
33Dehongli Rhan 2
Yn y Rhan hon—
mae “aelod o awdurdod lleol” (“member of a local authority”) yn cynnwys maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000) neu aelod gweithrediaeth etholedig (o fewn ystyr adran 39(4) o'r Ddeddf honno) o'r awdurdod;
ystyr “cyfarfod o'r awdurdod” (“meeting of the authority”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
- a
cyfarfod o'r awdurdod lleol;
- b
cyfarfod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod;
- c
cyfarfod o unrhyw gyd-bwyllgor, cyd-fwrdd neu gorff arall y mae swyddogaethau'r awdurdod ar y pryd yn cael eu cyflawni ganddo;
- d
cyfarfod o unrhyw gorff a benodwyd i gynghori'r awdurdod ar unrhyw fater sy'n ymwneud â chyflawni swyddogaethau'r awdurdod;
- e
cyfarfod o unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn cael ei gynrychioli arno.
- a
ystyr “cyfarfod o'r weithrediaeth” (“meeting of the executive”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
- a
cyfarfod o'r weithrediaeth;
- b
cyfarfod o unrhyw bwyllgor i'r weithrediaeth;
- c
cyflawni gan aelod sy'n gweithredu ar ei ben ei hun unrhyw swyddogaeth y mae gan y weithrediaeth gyfrifoldeb amdani;
- a
ystyr “gweithrediaeth” (“executive”) yw unrhyw un o'r canlynol—
- a
gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru);
- b
gweithrediaeth maer a chabinet;
- a
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.