RHAN 3TREFNIADAU LLYWODRAETHU SYDD AR GAEL
Gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor
I134Diddymu gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor
1
Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel a ganlyn.
2
Yn adran 11 (gweithrediaethau llywodraeth leol)—
a
hepgorer is-adran (4) (gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor);
b
yn is-adran (10)—
i
hepgorer “or an officer”;
ii
hepgorer “or (4)(b)”.
3
Hepgorer adran 16.
4
Yn adran 26 (cynigion nad yw refferendwm yn ofynnol ar eu cyfer), yn is-adran (2)—
a
ar ddiwedd paragraff (a) mewnosoder “or”;
b
hepgorer paragraff (b).
5
Yn adran 48 (dehongli Rhan 2), yn is-adran (1), hepgorer y diffiniad o “council manager”.
6
Yn Atodlen 1 (trefniadau gweithrediaeth: darpariaeth bellach), hepgorer paragraff 3.
7
Yn Neddf Llywodraeth Leol 1972—
a
yn adran 21 (cyfansoddiad prif gynghorau yng Nghymru), yn is-adran (1A), hepgorer “or a mayor and council manager executive”;
b
yn adran 22 (y cadeirydd), yn is-adran (4A), hepgorer “or a mayor and council manager executive”;
c
yn adran 25A (teitl cadeirydd neu is-gadeirydd cyngor bwrdeistref sirol), yn is-adran (3)), hepgorer “or a mayor and council manager executive”;
d
yn adran 245 (statws dosbarthau, plwyfi a chymunedau penodol), yn is-adrannau (1A) a (4A), hepgorer “or a mayor and council manager executive”;
e
yn adran 270 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â dehongli), yn is-adran (1), yn y diffiniad ““mayor and cabinet executive” and “mayor and council manager executive”” hepgorer “and “mayor and council manager executive””.
8
Yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989—
a
yn adran 5 (dynodiad ac adroddiadau'r swyddog monitro), yn is-adran (3)(b), hepgorer y geiriau o “and, in a case where” hyd at ddiwedd paragraff (b);
b
yn adran 5A (adroddiadau'r swyddog monitro - awdurdodau lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth), yn is-adran (5)(b), hepgorer y geiriau o “and, where” hyd at ddiwedd paragraff (b);
c
yn adran 13 (hawliau pleidleisio aelodau o bwyllgorau penodol: Cymru a Lloegr)—
i
hepgorer is-adran (5A);
ii
yn is-adran (9), hepgorer “and “mayor and council manager executive””;
d
yn adran 21 (dehongli Rhan 1), yn is-adran (3), hepgorer ““council manager”” a “and “mayor and council manager executive””.
9
Yn adran 106 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (treth gyngor a thâl cymunedol: cyfyngiadau ar bleidleisio)—
a
yn is-adran (1), hepgorer “or a council manager within the meaning of section 11(4)(b) of the Local Government Act 2000”;
b
yn is-adran (2), hepgorer “or a council manager”.