RHAN 4NEWIDIADAU MEWN TREFNIADAU GWEITHREDIAETH
PENNOD 1MABWYSIADU FFURF WAHANOL AR WEITHREDIAETH
Darpariaethau cyffredinol
I138Y cynigion ar gyfer mabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth
1
Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad (os bwriedir defnyddio'r pwerau a roddir gan adran 37).
2
Wrth lunio'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion yn debygol, os rhoddir hwy ar waith, o gynorthwyo i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
3
Rhaid i'r awdurdod lleol anfon at Weinidogion Cymru—
a
copi o'r cynigion a gymeradwywyd ganddo, a
b
(gyda'r copi o'r cynigion) ddatganiad sy'n disgrifio'r rhesymau pam bod yr awdurdod o'r farn y byddai ei gynigion yn debygol, pe byddent yn cael eu rhoi ar waith, o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ai i gymeradwyo'r cynigion ai peidio.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu penderfyniad.
6
Os yw Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad am benderfyniad i beidio â chymeradwyo'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach i roi'r cynigion ar waith ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi.