(1)Nid yw cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad at gyfarfod o awdurdod lleol wedi ei gyfyngu i gyfarfod o bob person y mae pob un ohonynt yn bresennol yn yr un fangre.
(2)At ddibenion unrhyw ddeddfiad o'r fath, mae aelod o awdurdod lleol nad yw'n bresennol yn y fangre lle y cynhelir cyfarfod o'r awdurdod hwnnw (“aelod sy'n mynychu o bell”) yn mynychu'r cyfarfod ar unrhyw adeg os bydd pob un o'r amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni.
(3)Yr amodau hynny yw—
(a)bod yr aelod sy'n mynychu o bell, ar yr adeg honno—
(i)yn gallu gweld a chlywed yr aelodau sy'n mynychu'r fangre, a'i fod yn gallu cael ei weld a'i glywed ganddynt,
(ii)yn gallu gweld a chlywed unrhyw aelodau o'r cyhoedd a chanddynt hawl i fynychu'r cyfarfod sy'n bresennol yn y fangre honno ac sy'n arfer hawl i siarad yn y cyfarfod, a'i fod yn gallu cael ei weld a'i glywed ganddynt, a
(iii)yn gallu cael ei weld a'i glywed gan unrhyw aelodau eraill o'r cyhoedd a chanddynt hawl felly i fod yn bresennol yn y fangre honno;
(b)bod yr aelod sy'n mynychu o bell, ar yr adeg honno, yn gallu clywed unrhyw aelod arall sy'n mynychu o bell ac y mae'r amod ym mharagraff (a) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef ar yr adeg honno, a'i fod yn gallu cael ei glywed ganddo;
(c)nad yw defnyddio cyfleusterau sy'n galluogi'r amodau ym mharagraffau (a) a (b) i gael eu bodloni mewn cysylltiad a'r aelod sy'n mynychu o bell wedi ei wahardd gan y rheolau sefydlog neu gan unrhyw un neu ragor o reolau eraill yr awdurdod sy'n llywodraethu'r cyfarfod.
(4)Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol sicrhau nad oes cworwm ar gyfer cyfarfod o'r awdurdod lleol ar unrhyw adeg pan fo nifer yr aelodau sy'n mynychu [F1mangre’r cyfarfod yn llai na 30% o gyfanswm nifer yr aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfod.]
[F2(4A)Nid yw is-adran (4) yn atal awdurdod lleol rhag creu rheolau sefydlog sy’n ei gwneud yn ofynnol fod mwy na 30% o gyfanswm yr aelodau sy’n bresennol mewn cyfarfod yn mynychu mangre’r cyfarfod i sicrhau cworwm.]
(5)Caiff awdurdod lleol wneud rheolau sefydlog eraill ynghylch mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol o bell.
(6)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd o'r awdurdod a fynychir o bell yn unol â'r adran hon.
(7)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol fel y mae'n gymwys mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol.
F3(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(9)At ddiben yr adran hon—
(a)mae cyfeiriad at berson (A) yn gweld person arall (B) i'w ddehongli fel cyfeiriad at A yn gweld B pan fo B yn siarad yn y cyfarfod;
(b)mae cyfeiriad at berson (C) yn cael ei weld gan berson arall (D) i'w ddehongli fel cyfeiriad at C yn cael ei weld gan D pan fo C yn siarad yn y cyfarfod.
(10)Yn yr adran hon—
F4...
ystyr “aelod sy'n mynychu'r fangre” (“member in actual attendance”), mewn perthynas â chyfarfod o awdurdod lleol, yw aelod o'r awdurdod sy'n mynychu'r cyfarfod yn y fangre lle y cynhelir y cyfarfod.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 4(4) wedi eu hamnewid (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 59(2), 75(2)(d)
F2A. 4(4A) wedi ei fewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 59(3), 75(2)(d)
F3A. 4(8) wedi ei diddymu (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), a. 75(2)(d), Atod. 2 Table 1
F4Geiriau yn a. 4(10) wedi eu diddymu (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), a. 75(2)(d), Atod. 2 Table 1
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 4 eithrio (22.4.2020) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/442), rhlau. 1(3), 5(1) (ynghyd â rhl. 5(2)-(5))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I2A. 4 mewn grym ar 28.2.2014 gan O.S. 2014/453, ergl. 2(a)