48Y pŵer i amrywio'r ffurf bresennol ar weithrediaethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth amrywio'r trefniadau fel eu bod—
(a)yn wahanol i'r trefniadau presennol ar unrhyw agwedd, ond
(b)yn dal i ddarparu ar gyfer yr un ffurf ar weithrediaeth.
(2)Mae'r pŵer a roddir gan is-adran (1) yn arferadwy yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Bennod hon.
(3)Am y diffiniad o “ffurf ar weithrediaeth”, gweler adran 53.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)