RHAN 4NEWIDIADAU MEWN TREFNIADAU GWEITHREDIAETH
PENNOD 2AMRYWIADAU ERAILL AR DREFNIADAU GWEITHREDIAETH PRESENNOL
I148Y pŵer i amrywio'r ffurf bresennol ar weithrediaeth
1
Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth amrywio'r trefniadau fel eu bod—
a
yn wahanol i'r trefniadau presennol ar unrhyw agwedd, ond
b
yn dal i ddarparu ar gyfer yr un ffurf ar weithrediaeth.
2
Mae'r pŵer a roddir gan is-adran (1) yn arferadwy yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Bennod hon.
3
Am y diffiniad o “ffurf ar weithrediaeth”, gweler adran 53.