RHAN 5LL+CSWYDDOGAETHAU AWDURDOD LLEOL: CYFLAWNI GAN BWYLLGORAU A CHYNGHORWYR

Arfer swyddogaethau gan gynghorwyrLL+C

56Arfer swyddogaethau gan gynghorwyrLL+C

(1)Caiff aelod gweithrediaeth hŷn awdurdod lleol wneud trefniadau i aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod gweithrediaeth arfer un o swyddogaethau'r awdurdod lleol y mae'r weithrediaeth yn gyfrifol amdani.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau i aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod gweithrediaeth arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau eraill yr awdurdod.

(3)O ran aelod nad yw'n aelod gweithrediaeth (N), dim ond swyddogaethau—

(a)mewn perthynas â'r adran etholiadol y mae N wedi ei ethol drosti, neu

(b)mewn perthynas â bod N yn aelod swyddogol o gorff ac eithrio'r awdurdod lleol

y caiff trefniadau o dan yr adran hon ddarparu i N eu harfer.

(4)Ni cheir gwneud trefniadau o dan yr adran hon ar gyfer arfer swyddogaeth—

(a)os yw wedi ei phennu, neu i'r graddau y mae wedi ei phennu, mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu

(b)mewn dull, neu mewn amgylchiadau, a bennwyd mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.

(5)Nid yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon ar gyfer arfer swyddogaeth yn atal arfer y swyddogaeth honno mewn modd arferol.

(6)Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i'r aelod gweithrediaeth hŷn, neu'r awdurdod lleol, roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(7)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at arfer swyddogaeth yn cynnwys cyfeiriad at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer swyddogaeth, neu sy'n gydnaws neu'n gysylltiedig ag arfer y swyddogaeth;

(b)mae cyfeiriad at swyddogaeth y mae gweithrediaeth awdurdod lleol yn gyfrifol amdani i'w ddehongli'n unol ag adran 13(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

(c)mae cyfeiriad at fod N yn aelod swyddogol o gorff yn gyfeiriad at fod N yn aelod o'r corff yn rhinwedd—

(i)penodiad gan awdurdod lleol,

(ii)penodiad, ac eithrio penodiad gan awdurdod lleol, a wnaed ar sail enwebiad neu argymhelliad gan awdurdod lleol neu gyda chymeradwyaeth awdurdod lleol, neu

(iii)penodiad, ac eithrio penodiad gan awdurdod lleol, a wnaed i gydymffurfio â gofyniad i benodi aelod o awdurdod lleol;

(d)mae cyfeiriad (mewn perthynas ag N) at benodiad, enwebiad neu argymhelliad gan awdurdod lleol, neu gymeradwyaeth awdurdod lleol, yn gyfeiriad at benodiad, enwebiad neu argymhelliad a wnaed gan y canlynol, neu gymeradwyaeth a roddir gan y canlynol—

(i)yr awdurdod lleol y mae N yn aelod ohono, neu

(ii)gweithrediaeth yr awdurdod lleol hwnnw;

(e)mae cyfeiriad at arfer arferol swyddogaeth yn gyfeiriad at arfer y swyddogaeth gan y person neu'r personau sy'n ei harfer pan nad oes trefniadau wedi eu gwneud o dan yr adran hon.

(8)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol yn gyfeiriadau at awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth.

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “aelod gweithrediaeth hŷn” (“senior executive member”) yw—

    (a)

    yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), yr arweinydd gweithrediaeth;

    (b)

    yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer etholedig;

  • ystyr “aelod nad yw'n aelod gweithrediaeth” (“non-executive member”) yw aelod o awdurdod lleol nad yw'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod.