(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth i ganiatáu [F1neu i’w gwneud yn ofynnol] i unrhyw ddau awdurdod lleol neu ragor wneud y canlynol—
(a)penodi cyd-bwyllgor (“cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu”), a
(b)trefnu i'r pwyllgor arfer unrhyw swyddogaethau o ran llunio adroddiadau neu wneud argymhellion i'r canlynol ynghylch unrhyw fater nad yw'n fater wedi ei eithrio—
(i)unrhyw un neu ragor o'r awdurdodau lleol sy'n penodi'r pwyllgor, a
(ii)yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, gweithrediaeth yr awdurdod lleol.
(2)Yn is-adran (1)(b) ystyr “mater wedi ei eithrio” yw unrhyw fater y gallai pwyllgor trosedd ac anhrefn lunio adroddiad neu wneud argymhellion mewn cysylltiad ag ef—
(a)yn rhinwedd is-adran (1)(b) o adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (craffu gan awdurdodau lleol ar faterion trosedd ac anhrefn), neu
(b)yn rhinwedd is-adran (3)(a) o'r adran honno.
(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud mewn rheoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—
[F2(a)darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir gwneud trefniadau;
(aa)darpariaeth sy’n rhagnodi amgylchiadau pan fo rhaid gwneud trefniadau;
(ab)darpariaeth i drefniadau gael eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau neu gyfyngiadau rhagnodedig;]
(b)darpariaeth ar gyfer penodi is-bwyllgorau i gyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu;
(c)mewn perthynas â chyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu (neu is-bwyllgorau i bwyllgorau o'r fath) darpariaeth sy'n cymhwyso unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r canlynol, neu sy'n cyfateb iddi neu iddynt—
(i)is-adrannau (4) i (15A) a (18) o adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000,
(ii)adrannau 21A, 21B, 21D, 21F a 21G o'r Ddeddf honno,
(iii)adran 186 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac Atodlen 11 iddi.
(4)Rhaid i awdurdod lleol a chyd-bwyllgor trosolwg a chraffuF3... roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru [F4mewn perthynas ag arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan neu yn rhinwedd yr adran hon] .
(5)Yn adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), yn is-adran (2A)(e)—
(a)ar ôl “committee” mewnosoder “—
(i)”;
(b)ar ôl “concerned” mewnosoder “, or
(ii)a joint overview and scrutiny committee within the meaning of section 58 of the Local Government (Wales) Measure 2011 appointed by two or more local authorities, one of which is the authority concerned”.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 58(1) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 66(2), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 6(n)
F2A. 58(3)(a)-(ab) wedi ei amnewid ar gyfer a. 58(3)(a) (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 66(3), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 6(n)
F3Geiriau yn a. 58(4) wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 66(4)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 6(n)
F4Geiriau yn a. 58(4) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 66(4)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 6(n)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 58 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)