xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yn is-adran (2) mewn perthynas â phob un o bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod.
(2)Trefniadau yw'r trefniadau hynny sy'n galluogi'r holl bersonau sy'n byw neu'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol i ddwyn i sylw'r pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol eu safbwyntiau ar unrhyw fater sy'n cael ei ystyried gan y pwyllgor.
(3)Rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol, pan fydd yn arfer ei swyddogaethau, roi sylw i unrhyw safbwyntiau a gaiff eu dwyn i'w sylw yn unol â threfniadau a wneir o dan yr adran hon.
(4)Wrth gydymffurfio ag is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
(5)Wrth gydymffurfio ag is-adran (3), rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
(6)Yn yr adran hon—
mae i “cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr sydd i “joint overview and scrutiny committee” yn adran 21(2A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
ystyr “mater sy'n cael ei ystyried” (“matter under consideration”), mewn perthynas â phwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol, yw mater y mae pwyllgor yn arfer unrhyw swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef;
ystyr “pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol” (“relevant overview and scrutiny committee”), mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw—
pwyllgor trosolwg a chraffu i'r awdurdod,
is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath,
cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu i'r awdurdod, neu
is-bwyllgor i gyd-bwyllgor o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 62 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)