RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU
Penodi personau i gadeirio pwyllgorau
I166Y ddarpariaeth mewn rheolau sefydlog ynghylch penodi personau i gadeirio pwyllgorau
1
Rhaid i reolau sefydlog awdurdod lleol wneud darpariaeth (“darpariaeth benodi”) ar gyfer penodi personau sydd i gadeirio pwyllgor neu bwyllgorau trosolwg a chraffu'r awdurdod lleol (“cadeiryddion pwyllgorau”).
2
Rhaid i'r ddarpariaeth benodi gydymffurfio—
a
ag adran 67,
b
ag adran 68, ac
c
ag adran 69 (ac yn unol â hynny ag adrannau 70 i 73 neu ag adran 74).
3
Rhaid i ddarpariaeth benodi beidio â rhwystro person rhag cael ei benodi'n gadeirydd pwyllgor oherwydd bod y person—
a
yn aelod, neu ddim yn aelod, o unrhyw grŵp gwleidyddol, neu
b
yn aelod, neu ddim yn aelod, o grŵp gwleidyddol penodol.