RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU
Penodi personau i gadeirio pwyllgorau
I173Swyddi gwag achlysurol ymhlith cadeiryddion pwyllgor
1
Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu ar gyfer yr achos a geir yn is-adran (2) drwy gyfrwng darpariaeth o'r math y cyfeirir ati yn is-adrannau (3) a (4).
2
Yr achos hwnnw yw—
a
pan fo'n amser i benodi rhai o gadeiryddion pwyllgor yr awdurdod, ond nid yr holl gadeiryddion, a
b
nid yr achos a geir yn adran 72 ydyw.
3
Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer gwneud—
a
penderfyniad adran 70 (fel pe byddai wedi dod yn amser penodi holl gadeiryddion pwyllgorau'r awdurdod lleol), a
b
penderfyniad ynghylch a oes gwahaniaeth rhwng—
i
nifer y cadeiryddion pwyllgor y byddai gan grŵp gwleidyddol hawl i'w penodi'n unol â phenderfyniad adran 70, a
ii
nifer y cadeiryddion pwyllgor sy'n dal swyddi ar yr adeg honno ac a benodwyd gan y grŵp hwnnw.
4
Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod unrhyw wahaniaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adran (3)(b) yn cael ei ddileu, i'r graddau y mae hynny yn bosibl, gan benodiad y cadeirydd pwyllgor neu'r cadeiryddion pwyllgor.