Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

73Swyddi gwag achlysurol ymhlith cadeiryddion pwyllgorLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu ar gyfer yr achos a geir yn is-adran (2) drwy gyfrwng darpariaeth o'r math y cyfeirir ati yn is-adrannau (3) a (4).

(2)Yr achos hwnnw yw—

(a)pan fo'n amser i benodi rhai o gadeiryddion pwyllgor yr awdurdod, ond nid yr holl gadeiryddion, a

(b)nid yr achos a geir yn adran 72 ydyw.

(3)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer gwneud—

(a)penderfyniad adran 70 (fel pe byddai wedi dod yn amser penodi holl gadeiryddion pwyllgorau'r awdurdod lleol), a

(b)penderfyniad ynghylch a oes gwahaniaeth rhwng—

(i)nifer y cadeiryddion pwyllgor y byddai gan grŵp gwleidyddol hawl i'w penodi'n unol â phenderfyniad adran 70, a

(ii)nifer y cadeiryddion pwyllgor sy'n dal swyddi ar yr adeg honno ac a benodwyd gan y grŵp hwnnw.

(4)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod unrhyw wahaniaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adran (3)(b) yn cael ei ddileu, i'r graddau y mae hynny yn bosibl, gan benodiad y cadeirydd pwyllgor neu'r cadeiryddion pwyllgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 73 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)