RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Penodi personau i gadeirio pwyllgorau

74Yr awdurdod yn penderfynu ar ddarpariaeth benodi

1

Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon—

a

os nad yw'r ddarpariaeth yn llai ffafriol nag adran 70 i grwpiau gwrthblaid, a

b

os cymeradwyir y ddarpariaeth drwy benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol ac sy'n benderfyniad y mae iddo gefnogaeth ar draws y grwpiau.

2

Nid yw darpariaeth benodi'n llai ffafriol nag adran 70 i grwpiau gwrthblaid os yw'n darparu—

a

bod y cyfle i'w roi i grwpiau gwrthblaid ar yr awdurdod lleol (o'u cymryd gyda'i gilydd) i benodi nifer mwy o gadeiryddion pwyllgor nag yn achos darpariaeth a wneir yn unol ag adran 70, a

b

bod y cyfle i'w roi i bob grŵp gwrthblaid ar yr awdurdod lleol i benodi'r un nifer o leiaf o gadeiryddion pwyllgor ag a fyddai'n achos darpariaeth a wneir yn unol ag adran 70.

3

Mae cefnogaeth ar draws y grwpiau i benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol—

a

os yw'r personau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad yn cynnwys aelodau o bob grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod, a

b

os yw pob grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yn rhoi cefnogaeth fwyafrifol i'r penderfyniad.

4

Mae grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yn rhoi cefnogaeth fwyafrifol i'r penderfyniad os yw nifer aelodau'r grŵp hwnnw sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad yn fwy na nifer aelodau'r grŵp hwnnw sy'n pleidleisio yn erbyn y penderfyniad.