78Gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaidLL+C
(1)Ni chaniateir i aelod o bwyllgor trosolwg a chraffu bleidleisio ar gwestiwn mewn cyfarfod o'r pwyllgor os rhoddwyd cyfarwyddyd chwip plaid i'r aelod, cyn y cyfarfod, mewn perthynas â'r cwestiwn (“cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid”).
(2)Rhaid diystyru pleidlais a roddir yn groes i is-adran (1).
(3)Rhaid i reolau sefydlog ddarparu bod rhaid i bob aelod o'r pwyllgor, ym mhob un o gyfarfodydd pwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol, ddatgan unrhyw gyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid sydd wedi ei roi i'r aelod mewn perthynas â'r cyfarfod.
(4)Rhaid i reolau sefydlog ei gwneud yn ofynnol i gofnodion pob cyfarfod pwyllgor trosolwg a chraffu gofnodi pob datganiad o'r fath yn y cyfarfod am gyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid.
(5)Y person sy'n cadeirio cyfarfod o'r pwyllgor trosolwg a chraffu sydd i benderfynu a yw aelod o'r pwyllgor wedi cael cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid mewn perthynas â'r cyfarfod.
(6)Os bydd mynd yn groes i'r adran hon yn effeithio'n sylweddol ar benderfynu cwestiwn gan bwyllgor trosolwg a chraffu, mae'r penderfyniad i'w drin fel pe na fo wedi ei wneud.
(7)Nid yw is-adran (6) yn effeithio ar unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw berson ac eithrio'r pwyllgor trosolwg a chraffu.
(8)At ddibenion is-adran (6), o ran mynd yn groes i'r adran hon ac effaith ar benderfynu cwestiwn gan bwyllgor trosolwg a chraffu—
(a)mae'n effeithio'n sylweddol os yw un aelod o'r pwyllgor neu ragor yn pleidleisio ar y cwestiwn yn groes i is-adran (1),
(b)mae'n effeithio'n sylweddol os na ddiystyrir un neu ragor o'r pleidleisiau a grybwyllir ym mharagraff (a) yn unol ag is-adran (2), ac
(c)mae'n effeithio'n sylweddol pe byddai'r penderfyniad i'r cwestiwn wedi bod yn wahanol pe byddai'r bleidlais neu'r pleidleisiau a grybwyllir ym mharagraff (b) wedi eu diystyru'n unol ag is-adran (2).
(9)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag is-bwyllgor i bwyllgor trosolwg a chraffu fel y mae'n gymwys i'r pwyllgor trosolwg a chraffu (ac yn unol â hyn mae cyfeiriadau yn yr adran hon at bwyllgor trosolwg a chraffu i'w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at is-bwyllgor o'r fath).
(10)Yn yr adran hon—
ystyr “cyfarwyddyd chwip plaid” (“party whip”) yw cyfarwyddyd (sut bynnag y'i mynegir)—
(a)a roddir ar ran grŵp gwleidyddol ar awdurdod lleol;
(b)a roddir i berson (P)—
(i)sy'n aelod o'r grŵp gwleidyddol, a
(ii)sy'n aelod o bwyllgor trosolwg a chraffu i'r awdurdod lleol;
(c)ynghylch sut y dylai P bleidleisio ar gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu; a
(d)os na chydymffurfir ag ef gan P, a fyddai'n debygol o wneud P yn agored i gamau disgyblu gan y grŵp gwleidyddol sy'n rhoi'r cyfarwyddyd;
ystyr “grŵp gwleidyddol” (“political group”) yw grŵp o aelodau o awdurdod lleol sy'n grŵp gwleidyddol at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”), mewn perthynas â phwyllgor trosolwg a chraffu, yw rheolau sefydlog sy'n rheoleiddio trafodion a busnes y pwyllgor hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 78 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)