(1)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)dynodi un o'i swyddogion i gyflawni'r swyddogaethau yn adran 9 (“swyddogaethau gwasanaethau democrataidd”);
(b)darparu i'r swyddog hwnnw y staff, y llety a'r adnoddau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon i ganiatáu i swyddogaethau'r swyddog hwnnw gael eu cyflawni.
[F1(1A)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch swyddogaeth yr awdurdod lleol o dan is-adran (1)(b).]
(2)Caiff pennaeth gwasanaethau democrataidd drefnu i swyddogaethau gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni gan staff a ddarperir o dan yr adran hon.
(3)Mae swyddog a ddynodir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon i'w alw'n bennaeth gwasanaethau democrataidd.
(4)Ni chaiff awdurdod lleol ddynodi unrhyw un neu ragor o'r canlynol o dan yr adran hon—
[F2(a)prif weithredwr yr awdurdod a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]
F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)prif swyddog cyllid yr awdurdod, o fewn ystyr [F4adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989] .
Diwygiadau Testunol
F1A. 8(1A) wedi ei fewnosod (4.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 161(1), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 2(h)
F2A. 8(4)(a) wedi ei amnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 5 para. 13; O.S. 2021/231, ergl. 6(s)
F3A. 8(4)(b) wedi ei hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 161(2)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 6(p)
F4Geiriau yn a. 8(4)(c) wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 161(2)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 6(p)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)