Adran 29 - Cyfyngu ar geisiadau dro ar ôl tro
60.Mae adran 29 yn delio â chyfyngiadau ar geisiadau ailadroddus. Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwrthod caniatáu cais am gyfarwyddyd ni chaiff awdurdod wneud cais sy'n sylweddol yr un fath â’r cais hwnnw, am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad y gwrthodiad.
61.Pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan adran 6 (“y cyfarwyddyd perthnasol”) (pa un a wnaed amrywiad o dan adran 13 neu 17, neu estyniad o dan adran 22, ai peidio), rhaid i awdurdod, yn ystod y cyfnod yn is-adran (5), beidio â gwneud cais arall am gyfarwyddyd o dan adran 1 sydd yr un fath o ran sylwedd â’r cyfarwyddyd perthnasol. O dan is-adran (5), mae’r cyfnod yn cychwyn ar y dyddiad y mae’r cyfarwyddyd perthnasol yn cael effaith (is-adran (5)(a)) ac yn diweddu ddwy flynedd o’r adeg y mae’r cyfarwyddyd perthnasol yn peidio â chael effaith (is-adran (5)(b)). Yn achos amrywiad o dan adran 13 neu 17, mae’r cyfeiriadau at y cyfarwyddyd perthnasol yn is-adrannau (4) a (5b) yn gyfeiriadau at y cyfarwyddyd fel y’i hamrywiwyd, mae’r cyfeiriad yn is-adran (5)(b) yn gyfeiriad at yr adeg y mae’r cyfarwyddyd perthnasol fel y’i hestynnwyd yn peidio â chael effaith. Mae hyn yn golygu nad oes modd i awdurdod wneud cais am gyfarwyddyd sydd yr un fath o ran sylwedd ag un presennol ac sydd wedi'i amseru i ddechrau cyn gynted ag y mae'r cyfarwyddyd presennol yn dod i ben. Rhaid iddo yn hytrach wneud cais am estyniad (gyda'r amod ychwanegol o ddangos ei fod wedi cymryd camau digonol hyd hynny i fynd i'r afael â'r cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai) sydd â therfyn iddo o gyfnod o ddeng mlynedd. Fel arall bydd rhaid i’r awdurdod aros i gyfnod o flwyddyn fynd heibio o'r dyddiad pan beidiodd y cyfarwyddyd â chael effaith.