RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 2AMRYWIO CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

7Ystyr “amrywiad ehangu” ac “amrywiad lleihau” etc

(1)At ddibenion y Bennod hon, ystyr “amrywiad ehangu” yw amrywiad i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon sy'n gwneud un o'r newidiadau a ganlyn neu'r ddau (a dim newidiadau eraill)—

(a)newid y cyfarwyddyd fel ei fod yn gymwys i ardal nad oedd yn gymwys iddi cyn hynny;

(b)newid y cyfarwyddyd fel ei fod yn gymwys i fath neu fathau o dŷ annedd perthnasol nad oedd yn gymwys iddo neu iddynt cyn hynny;

a rhaid dehongli “elfennau ehangu” yn unol â hynny.

(2)At ddibenion y Bennod hon, ystyr “amrywiad lleihau” yw amrywiad i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon sy'n gwneud un o'r newidiadau a ganlyn neu'r ddau (a dim newidiadau eraill)—

(a)newid y cyfarwyddyd fel nad yw bellach yn gymwys i ardal yr oedd yn gymwys iddi cyn hynny;

(b)newid y cyfarwyddyd fel nad yw bellach yn gymwys i fath neu fathau o dŷ annedd perthnasol yr oedd yn gymwys iddo neu iddynt cyn hynny;

a rhaid dehongli “elfennau lleihau” yn unol â hynny.

8Amrywiad ehangu: pŵer i wneud cais

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon—

(a)os dyroddwyd y cyfarwyddyd mewn ymateb i gais a wnaed gan yr awdurdod;

(b)os gwneir y cais am amrywiad o leiaf chwe mis cyn y dyddiad y mae'r cyfarwyddyd i beidio â chael effaith;

(c)os yw'r awdurdod, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n rhagflaenu'r cais, wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 9, a

(d)yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, ac ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall, os yw'r awdurdod yn dod i'r casgliad, mewn perthynas ag elfennau ehangu'r amrywiad, bod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.

(2)Y cyflwr yw—

(a)bod y galw am dai cymdeithasol sy'n dod o fewn elfennau ehangu'r amrywiad yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, a

(b)bod yr anghydbwysedd hwnnw rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

9Amrywiad ehangu: ymgynghori

(1)Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer yr ymgynghoriad y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol ei gynnal cyn y caiff wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r ymgynghoriad geisio barn ynghylch a oes angen i'r awdurdod wneud cais am amrywiad o'r fath ai peidio.

(3)Ymgynghorer â'r personau a ganlyn—

(a)pob darparydd tai cymdeithasol—

(i)y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn landlord ar dŷ annedd a leolir yn ardal yr awdurdod (ond nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ag ef ei hun), a

(ii)y mae'r awdurdod o'r farn yr effeithid arno pe bai ei gais am amrywiad ehangu yn cael ei ganiatáu;

(b)unrhyw gorff neu gyrff yr ymddengys i'r awdurdod ei fod neu eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid tai annedd o fewn ardal yr awdurdod—

(i)pan fo landlordiaid y tai annedd hynny yn ddarparwyr tai cymdeithasol, a

(ii)pan fo'r awdurdod o'r farn yr effeithid ar denantiaid y tai annedd hynny pe bai ei gais am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;

(c)unrhyw awdurdod tai lleol arall y mae ei hardal yn gyfagos i'r ardal y bwriedir i elfennau ehangu'r cyfarwyddyd fod yn gymwys iddi, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

10Cais am amrywiad ehangu

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd (fel y byddid yn ei amrywio pe caniateid y cais) a fyddai, pes cynhwysid mewn cais am gyfarwyddyd o dan adran 3, yn cydymffurfio â gofynion adran 3(2)(a);

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(c)esbonio pam y mae'r awdurdod o'r farn bod yr amrywiad yn ymateb priodol i'r ffaith iddo ddod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(d)esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ei ardal yn ystod y cyfnod y mae'r cyfarwyddyd (fel y'i hamrywiwyd) i gael effaith ynddo, ac

(e)disgrifio'r hyn a wnaeth yr awdurdod i gyflawni ei rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 9.

11Ystyriaeth gan Weinidogion Cymru o gais am amrywiad ehangu

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cais awdurdod tai lleol am amrywiad ehangu yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt ystyried y cais.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw cais yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt wrthod ystyried y cais, onid ydynt o'r farn bod y methiant i gydymffurfio â'r gofynion yn ddibwys neu'n ddiarwyddocâd, ac os felly caniateir iddynt ystyried y cais.

(3)Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu awdurdod yn ysgrifenedig—

(a)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (1) i ystyried cais am amrywiad ehangu;

(b)os ydynt yn penderfynu o dan is-adran (2) ystyried cais o'r fath, neu

(c)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (2) i wrthod ystyried cais.

(4)Mae'r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd hysbysiad o dan is-adran (3)(a) neu (b) i'w drin fel y dyddiad y penderfynodd Gweinidogion Cymru ystyried y cais.

(5)Os bydd awdurdod tai lleol yn darparu gwybodaeth bellach o dan adran 27 cyn bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ystyried cais, mae'r wybodaeth honno i'w thrin fel petai'n ffurfio rhan o'r cais.

12Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais

(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried cais awdurdod tai lleol am amrywiad ehangu yn unol ag adran 11(1) neu (2).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod y cais (heb ystyried a yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn—

(a)bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais, neu

(b)pan fo'n ofynnol i'r awdurdod gael strategaeth ynghylch tai o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, bod y strategaeth, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol yn ardal yr awdurdod a'r cyflenwad ohonynt, yn annigonol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud penderfyniad o dan is-adran (2)(b) onid ydynt wedi ystyried—

(a)unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei baratoi o dan adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, a

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn berthnasol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais—

(a)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod ynghylch pam mae'r cyflwr a ddisgrifir yn adran 8(2) yn bodoli;

(b)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod bod yr amrywiad yn ymateb priodol i'r ffaith bod yr awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr yn bodoli;

(c)os ydynt wedi eu bodloni bod cynigion yr awdurdod a gynhwysir yn ei gais yn unol ag adran 10(2)(d) yn debygol o gyfrannu at leihad yn yr anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ardal yr awdurdod, a

(d)os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod, cyn gwneud y cais, wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 9.

(5)Os oes unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o is-adran (4) heb ei fodloni, rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.

(6)Rhaid i Weinidogion ganiatáu neu wrthod cais yn unol â'r adran hon o fewn chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaethant benderfynu ystyried y cais (gweler adran 11(4)).

(7)Nid effeithir ar ddilysrwydd penderfyniad Gweinidogion Cymru gan fethiant i gydymffurfio ag is-adran (6).

13Dyroddi cyfarwyddyd a amrywiwyd i gynnwys elfennau ehangu

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 12, rhaid iddynt ddyroddi yn ysgrifenedig gyfarwyddyd a amrywiwyd—

(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi;

(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n gymwys iddo neu iddynt;

(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 10(2)(a).

14Amrywiad lleihau: pŵer i wneud cais

(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad lleihau i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon—

(a)os dyroddwyd y cyfarwyddyd mewn ymateb i gais a wnaed gan yr awdurdod, a

(b)os yw'r awdurdod yn dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.

(2)Y cyflwr yw naill ai—

(a)nad yw'r galw am dai cymdeithasol sy'n dod o fewn elfennau lleihau'r amrywiad yn sylweddol uwch nac yn debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, neu

(b)hyd yn oed os yw'r galw yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad, nad yw'r anghydbwysedd rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

15Cais am amrywiad lleihau

(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am amrywiad lleihau i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r cais—

(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd (fel y byddid yn ei amrywio pe caniateid y cais) a fyddai, pes cynhwysid mewn cais am gyfarwyddyd o dan adran 3, yn cydymffurfio â gofynion adran 3(2)(a), a

(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 14(2) yn bodoli.

16Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod cais awdurdod tai lleol am amrywiad lleihau (heb ystyried a yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod bod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 14(2) yn bodoli ac os nad yw Gweinidogion Cymru yn cytuno â hynny, rhaid iddynt wrthod y cais.

17Dyroddi cyfarwyddyd a amrywiwyd i gynnwys elfennau lleihau

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 16, rhaid iddynt ddyroddi yn ysgrifenedig gyfarwyddyd a amrywiwyd—

(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi;

(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n berthnasol iddo neu iddynt;

(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 15(2)(a).