RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG
PENNOD 5CEISIADAU: DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
26Tynnu cais yn ôl
Ar unrhyw adeg cyn bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad ar gais awdurdod tai lleol am gyfarwyddyd, neu am ddirymu cyfarwyddyd, o dan y Rhan hon, caiff yr awdurdod a wnaeth y cais ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig.
27Darparu gwybodaeth bellach
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu gwybodaeth bellach yn ychwanegol at yr wybodaeth a roddwyd mewn cais am gyfarwyddyd, neu am ddirymu cyfarwyddyd, o dan y Rhan hon.
(2)
Mae'r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy os yw Gweinidogion Cymru yn rhesymol o'r farn bod gwybodaeth bellach yn ofynnol er mwyn iddynt benderfynu a ddylid ystyried cais yr awdurdod neu ddyfarnu cais yr awdurdod.
28Cyhoeddi cyfarwyddiadau
(1)
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi cyfarwyddyd o dan y Rhan hon, rhaid i'r awdurdod tai lleol a wnaeth gais am y cyfarwyddyd ei gyhoeddi ym mha ddull bynnag sy'n briodol yn ei dyb ef.
(2)
Rhaid i'r awdurdod hefyd gymryd camau rhesymol eraill i ddwyn cyfarwyddyd, neu ddirymiad cyfarwyddyd, a ddyroddwyd o dan y Rhan hon i sylw personau y mae'n debygol y bydd yn effeithio arnynt.
29Cyfyngu ar geisiadau dro ar ôl tro
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwrthod caniatáu cais awdurdod tai lleol am gyfarwyddyd o dan y Rhan hon.
(2)
Pan fo'r is-adran hon yn gymwys, rhaid i'r awdurdod tai lleol a wnaeth y cais beidio â gwneud cais, yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd yn dechrau gyda dyddiad y gwrthodiad, am gyfarwyddyd sy'n sylweddol yr un fath â'r cyfarwyddyd y gwrthodwyd y cais ar ei gyfer.
(3)
Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi cyfarwyddyd o dan adran 6 (y “cyfarwyddydd perthnasol”) (p'un a fu amrywiad o dan adran 13 neu 17 neu estyniad o dan adran 22 ai peidio).
(4)
Pan fo'r is-adran hon yn gymwys, rhaid i'r awdurdod tai lleol, yn ystod y cyfnod a ddisgrifir yn is-adran (5), beidio â gwneud cais o dan adran 1 am gyfarwyddyd arall sy'n sylweddol yr un fath â'r cyfarwyddyd perthnasol.
(5)
Mae'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (4)—
(a)
yn dechrau ar y dyddiad y mae'r cyfarwyddyd perthnasol yn cael effaith, a
(b)
yn dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad y mae'r cyfarwyddyd perthnasol yn peidio â chael effaith.
(6)
Mewn achos lle y bu amrywiad o dan adran 13 neu 17, mae'r cyfeiriadau yn is-adran (4) a (5)(b) at y cyfarwyddyd perthnasol yn gyfeiriad at y cyfarwyddyd sydd yn cael effaith ar ôl yr amrywiad.
(7)
Mewn achos lle y bu estyniad o dan adran 22, mae'r cyfeiriad yn is-adran (5)(b) at yr amser pan fo'r cyfarwyddyd perthnasol yn peidio â chael effaith yn gyfeiriad at yr amser pan fo'r cyfarwyddyd yn peidio â chael effaith yn unol â'r estyniad.
30Canllawiau
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 3, 10, 15, 20 a 24, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.