RHAN 3DARPARIAETHAU ATODOL A DARPARIAETHAU TERFYNOL

89Gorchmynion

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Mesur hwn—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer—

(i)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, ardaloedd, awdurdodau a disgrifiadau o awdurdod;

(ii)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(iii)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(2)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 34 yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw gorchymyn yn cynnwys darpariaethau a wnaed o dan y pwerau a grybwyllir yn is-adran (4).

(4)Rhaid peidio â gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn (ar ei ben ei hun neu ynghyd â darpariaethau eraill) a wnaed o dan adran 34(3)(a) onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

90Cychwyn

(1)Mae'r Rhan hon o'r Mesur yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(2)Daw darpariaethau eraill y Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, a chaiff gorchymyn ddarparu bod y darpariaethau hynny'n dod i rym ar ddiwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

91Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Tai (Cymru) 2011.