Mesur Tai (Cymru) 2011

11Ystyriaeth gan Weinidogion Cymru o gais am amrywiad ehangu

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cais awdurdod tai lleol am amrywiad ehangu yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt ystyried y cais.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw cais yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt wrthod ystyried y cais, onid ydynt o'r farn bod y methiant i gydymffurfio â'r gofynion yn ddibwys neu'n ddiarwyddocâd, ac os felly caniateir iddynt ystyried y cais.

(3)Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu awdurdod yn ysgrifenedig—

(a)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (1) i ystyried cais am amrywiad ehangu;

(b)os ydynt yn penderfynu o dan is-adran (2) ystyried cais o'r fath, neu

(c)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (2) i wrthod ystyried cais.

(4)Mae'r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd hysbysiad o dan is-adran (3)(a) neu (b) i'w drin fel y dyddiad y penderfynodd Gweinidogion Cymru ystyried y cais.

(5)Os bydd awdurdod tai lleol yn darparu gwybodaeth bellach o dan adran 27 cyn bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ystyried cais, mae'r wybodaeth honno i'w thrin fel petai'n ffurfio rhan o'r cais.