RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG
PENNOD 2AMRYWIO CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG
16Penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru wrthod cais awdurdod tai lleol am amrywiad lleihau (heb ystyried a yw is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod bod y cyflwr a ddisgrifir yn adran 14(2) yn bodoli ac os nad yw Gweinidogion Cymru yn cytuno â hynny, rhaid iddynt wrthod y cais.