RHAN 3DARPARIAETHAU ATODOL A DARPARIAETHAU TERFYNOL
I189Gorchmynion
1
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Mesur hwn—
a
yn arferadwy drwy offeryn statudol;
b
yn cynnwys pŵer—
i
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, ardaloedd, awdurdodau a disgrifiadau o awdurdod;
ii
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
iii
i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.
2
Mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 34 yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3
Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw gorchymyn yn cynnwys darpariaethau a wnaed o dan y pwerau a grybwyllir yn is-adran (4).
4
Rhaid peidio â gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn (ar ei ben ei hun neu ynghyd â darpariaethau eraill) a wnaed o dan adran 34(3)(a) onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.