10Pŵer arolygu
Ar ôl adran 14I o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
14JPŵer arolygu
1
Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I—
a
arolygu'r cerbyd neu'r fangre;
b
arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd copïau ohonynt a mynd â hwy o'r cerbyd neu'r fangre;
c
arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o'r cerbyd neu'r fangre.
2
Mae'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—
a
pŵer i'w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu'r fangre neu sy'n gyfrifol am y dogfennau neu'r cofnodion hynny i'w dangos hwy, a
b
o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, pŵer i'w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
3
Nid yw'r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
a
sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu
b
i gymryd copïau o'r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd â hwy i ffwrdd.
4
Mewn cysylltiad ag arolygu'r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd—
a
mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu'r deunydd, a
b
ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.
5
Mae person o fewn yr is-adran hon—
a
os y person hwnnw yw'r person sy'n defnyddio'r cyfrifiadur neu a'i defnyddiodd neu'r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu
b
os yw'r person hwnnw yn berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu'n ymwneud fel arall â'u gweithrediad.
6
Caiff arolygydd sy'n cadw cerbyd yn gaeth neu'n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy'n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu'r adran hon.
7
Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—
a
yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14I neu'r adran hon, neu
b
yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr adran hon,
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.