Nodiadau Esboniadol i Mesur Addysg (Cymru) 2011 Nodiadau Esboniadol

Adran 27 – Gwahardd newid categori i ysgol sefydledig

55.Yn Atodlen 8 i Ddeddf 1998  gwneir darpariaeth sy’n galluogi ysgolion yng Nghymru i newid eu categori. Mae adran 26 o’r Mesur hwn yn diwygio Atodlen 8 i Ddeddf 1998, gan ddiddymu gallu awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i gynnig bod ysgol yn newid ei chategori er mwyn dod yn ysgol sefydledig. Ni fydd hyn yn rhwystro ysgol sy’n ysgol sefydledig ar hyn o bryd rhag newid ei chategori er mwyn  bod mewn categori gwahanol.

Back to top