1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Mesur Addysg (Cymru) 2011 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 29 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Mai 2011
2.Lluniwyd hwy gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Mesur. Nid ydynt yn rhan o’r Mesur ac nid ydynt wedi eu cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Mesur. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod, yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Mesur. Felly, pan fo adran, neu ran o adran, yn hunanamlwg, ni ddarperir esboniad na sylw pellach.
4.Mae'r Mesur yn gwneud darpariaeth ar gyfer:
ysgogi cydlafurio rhwng awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a Sefydliadau Addysg Bellach (“SAB”);
rhoi pŵer i awdurdodau lleol sefydlu ffederasiwn o ysgolion;
hyfforddi llywodraethwyr ysgolion a gwella gwasanaeth clercio cyrff llywodraethu;
atal ysgolion yn y dyfodol rhag newid categori i fod yn ysgolion sefydledig, ac atal ysgolion sefydledig newydd rhag cael eu sefydlu.
5.Mewn perthynas â phwerau sy’n gwneud cydlafurio yn ofynnol rhwng awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a chyrff llywodraethu SAB, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) y cymhwysedd o dan Faterion 5.2B, 5.2C, 5.12 a 5.13 , a gynhwysir ym Maes 6 o Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mewn perthynas â llywodraethu ysgolion, mae’r cymhwysedd o dan Fater 5.2A. Mewn perthynas â’r darpariaethau sy’n atal ysgolion a gynhelir rhag newid categori i fod yn ysgolion sefydledig, ac atal creu ysgolion sefydledig newydd, mae gan y Cynulliad y cymhwysedd i wneud Mesur a fyddai'n caniatáu darpariaethau am y categori 'ysgolion sefydledig' o dan faterion 5.1 a 5.2.
6.Rhan 1 o’r Mesur yn rhoi swyddogaethau i gyrff addysg mewn cysylltiad â threfniadau i gydlafurio. Yn yr adran hon diffinnir cyrff addysg fel awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol a gynhelir, corfforaeth addysg bellach, a sefydliad addysg bellach a ddynodwyd o dan adran 28(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
7.Mae’r adran hon yn pennu amcan Rhan 1 o’r Mesur, sef sicrhau y defnyddir adnoddau cyhoeddus yn effeithiol ac effeithlon mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant hyd at 19 oed (“amcan y cydlafurio”).
8.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar gorff addysg i ystyried o bryd i’w gilydd, wrth arfer ei swyddogaethau eraill, a fyddai arfer ei bwerau cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio. Yr hyn a gynhwysir yn swyddogaethau eraill awdurdod lleol yw ei swyddogaethau addysg yn unig (gweler y diffiniad o “swyddogaethau” yn adran 8). Os yw’n ystyried y byddai cydlafurio’n cyflawni’r amcan, rhaid i’r corff addysg geisio arfer ei bwerau cydlafurio (is-adran (2)).
9.Mae is-adran (3) yn cyfyngu’r ddyletswydd o ystyried cydlafurio, a osodir ar sefydliadau addysg bellach, i’r ddarpariaeth o addysg i rai hyd at 19 oed.
10.Mae adran 4 yn diffinio ystyr y “pwerau cydlafurio” a roddir i gyrff addysg. Yn achos pob corff addysg y pwerau yn adran 5 yw’r rhain ac yn achos awdurdodau lleol, mae’r rhain yn cynnwys hefyd bwerau mewn deddfwriaeth arall.
11.Mae’r adran hon yn rhoi pwerau eang i gyrff addysg i’w galluogi i gydlafurio, at y diben o gyflawni, neu hwyluso cyflawni, eu dyletswyddau o dan adran 3 o’r Mesur, adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac adran 116J o Ddeddf Addysg 2002, neu ddyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny. Mae adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac adran 116J o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswyddau mewn perthynas â chyflenwi’r cwricwlwm lleol.
12.Mae adran 5 yn caniatáu i gorff addysg gydlafurio â chorff addysg arall i hwyluso cyflawni dyletswyddau’r corff addysg arall hwnnw, pa un a fyddai hynny’n hwyluso cyflawni ei ddyletswyddau’i hunan ai peidio.
13.Mae’r pwerau cydlafurio’n cynnwys pwerau i ddirprwyo swyddogaethau ac i drefnu i gyd-bwyllgorau gyflawni eu swyddogaethau.
14.Er bod y Mesur yn rhoi’r un pwerau i bob math o gorff addysg a gwmpesir gan y Mesur, nid yw’n galluogi nac yn gorfodi cyrff eraill i gydlafurio gyda chorff addysg. Mae’n bosibl, fodd bynnag, y caiff cyrff o’r fath wneud hynny o dan eu pwerau presennol.
15.Mae is-adran (3) yn darparu na fydd y pwerau newydd hyn yn effeithio ar bwerau unrhyw gorff addysg mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall, ac y cyfyngir ar y pwerau newydd hyn gan unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 6.
16.Mae is-adran (1) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach drwy gyfrwng rheoliadau ynghylch y pŵer i gydlafurio. Gallai rheoliadau o dan yr is-adran hon bennu, er enghraifft, pa swyddogaethau na chaiff corff addysg eu dirprwyo i gorff arall neu gyd-bwyllgor.
17.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth benodol ynglŷn â chyfansoddiad a gweithdrefn cyd-bwyllgorau o’r cyrff addysg sy’n cydlafurio, a materion cysylltiedig eraill.
18.Mae is-adrannau (3) a (4) yn darparu y caiff rheoliadau addasu unrhyw ddeddfwriaeth mewn perthynas â swyddogaethau’r cyrff addysg sy’n cydlafurio, pan fo’r swyddogaethau hynny wedi eu dirprwyo, neu mewn perthynas â’r cyrff sydd i gyflawni’r swyddogaethau hynny, o ran y modd y cymhwysir y ddeddfwriaeth i’r swyddogaethau neu’r cyrff hynny. Hwyrach y bydd angen addasu’r ddeddfwriaeth i adlewyrchu’r ffaith mai corff arall neu gyd-bwyllgor fydd yn cyflawni swyddogaeth benodol mewn gwirionedd (yn lle, neu’n ogystal â’r corff addysg y rhoddwyd y swyddogaeth iddo).
19.Mae adran 7 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau am gydlafurio y bydd rhaid i gyrff addysg roi sylw iddynt.
20.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn Rhan 1 o’r Mesur.
21.Mae adran 9 yn diddymu, i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, adran 26 o Ddeddf Addysg 2002 ac adran 166 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Roedd yr adrannau hynny’n darparu ar gyfer gwneud rheoliadau i ganiatáu cydlafurio rhwng ysgolion, cydlafurio rhwng cyrff addysg bellach, a rhwng ysgolion a chyrff addysg bellach. Disodlwyd yr adrannau hynny bellach, o ran Cymru, gan ddarpariaethau Rhan 1 o’r Mesur, sy’n gosod dyletswyddau mewn perthynas â chydweithio. Mae adran 9 yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill yn ogystal.
22.Mae’r Bennod hon yn disodli, o ran Cymru, adrannau 25 a 26 o Ddeddf Addysg 2002, gan wneud darpariaeth newydd ar gyfer ffedereiddio ysgolion a gynhelir. Mae ffedereiddio’n caniatáu ar gyfer ffurfio grŵp ar y cyd, o ddwy neu ragor o ysgolion o dan un corff llywodraethu.
23.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ddarparu y caiff dwy neu ragor o ysgolion ffedereiddio, neu ffederasiwn presennol ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion, neu ddau neu ragor o ffederasiynau presennol ffedereiddio, o dan un corff llywodraethu. Mae’n darparu ymhellach mai penderfyniad sydd i’w wneud gan y corff llywodraethu dan sylw yw ffedereiddio o dan yr adran hon, unwaith y bydd wedi cydymffurfio ag amodau a gweithdrefnau penodol a bennir mewn rheoliadau.
24.Mae is-adran (1) yn darparu pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru, i gynnig y caiff dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir ffedereiddio, ffederasiwn presennol ffedereiddio ag un neu ragor o ysgolion, neu ddau neu ragor o ffederasiynau presennol ffedereiddio, o dan un corff llywodraethu.
25.Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol, sy’n gwneud cynigion i ffedereiddio ysgolion neu ffederasiynau o dan yr adran hon, gyhoeddi’r cynigion hynny. Mae is-adran (3) yn darparu bod awdurdod lleol i ymgynghori â chyrff penodol ynglŷn â’r cynigion cyhoeddedig.
26.Nid yw’r gofynion hyn i gyhoeddi ac ymgynghori yn gymwys i gynnig i ffedereiddio ysgolion bach. Diffinnir ysgol fach gan orchymyn a wneir o dan adran 15 o’r Mesur. Pan fo cynnig o’r fath, mae is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ymgynghori â neb ond cyrff llywodraethu’r ysgolion bach sydd i’w ffedereiddio.
27.Mae is-adran (7) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol benderfynu unrhyw gynigion i ffedereiddio ysgolion. Bydd y weithdrefn ar gyfer penderfynu cynigion yn cael ei phennu mewn rheoliadau. Caiff yr awdurdod lleol gadarnhau’r cynigion (naill ai gydag addasiadau neu hebddynt, neu’n ddarostyngedig i ddigwyddiad penodol) neu caiff eu tynnu’n ôl.
28.Mae is-adran (8) yn caniatáu i awdurdodau lleol ystyried ffedereiddio gydag ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol arall, ar yr amod y ceir caniatâd yr awdurdod lleol arall.
29.Mae is-adran (9) yn gwneud yn ofynnol cael caniatâd personau penodol, cyn y caiff awdurdod lleol gynnig ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol. Y personau hynny, yn achos ysgol Gatholig Rufeinig neu ysgol yr Eglwys yng Nghymru yw’r awdurdod esgobaethol, ac yn achos ysgolion sefydledig neu wirfoddol eraill, y personau sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig.
30.Mae is-adran (10) yn darparu y caiff rheoliadau bennu gofynion mewn perthynas â chynigion i ffedereiddio. Gallai’r rheini gynnwys, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd personau penodol cyn y caiff awdurdod wneud, cyhoeddi neu gadarnhau’r cynigion. Caiff rheoliadau a wneir o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ffederasiwn sy’n cynnwys ysgol fach.
31.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithredu cynigion i ffedereiddio.
32.Mae is-adrannau (2) a (3) yn pennu’r rhai y mae’n ofynnol eu bod yn gweithredu’r cynigion. Y rhain yw’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu, i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu ar gyfer hynny, ac unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau.
33.Pan fo awdurdod lleol wedi cadarnhau cynigion, rhaid eu gweithredu fel y’u cadarnhawyd (is-adran (4)). Fodd bynnag, ceir addasu cynigion a gadarnhawyd ar gais personau a bennir mewn rheoliadau (is-adran (5))
34.O dan is-adran (6), caiff awdurdod lleol benderfynu peidio â gweithredu cynnig a gadarnhawyd os byddai gwneud hynny’n afresymol o anodd, neu os yw’r amgylchiadau wedi newid i’r fath raddau nad yw’n briodol gwneud hynny mwyach. Caiff rheoliadau wneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn ymgynghori â phersonau rhagnodedig cyn penderfynu felly (is-adran (7)).
35.Grŵp o ysgolion sydd ag un corff llywodraethu yw ffederasiwn. Bydd yr ysgolion o fewn ffederasiwn yn parhau i gael eu trin fel ysgolion unigol (ac felly, wrth arfer ei ddyletswyddau, rhaid i’r corff llywodraethu wneud hynny mewn perthynas â phob ysgol o fewn y ffederasiwn yn unigol ). Fodd bynnag, ceir pennu’r amgylchiadau mewn rheoliadau pan ganiateir trin ffederasiwn fel pe bai’n ysgol sengl.
36.Mae’r adran hon yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â ffederasiynau, gan gynnwys mewn perthynas â’u diddymu, a throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau.
37.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn sy’n diffinio “ysgol fach a gynhelir” yn ôl y nifer o ddisgyblion mewn ysgol. Y niferoedd o ddisgyblion fyddai’r niferoedd a bennid ar ddyddiad penodol mewn blwyddyn ysgol. Unwaith y diffinnir ysgol fach a gynhelir, bydd modd i Weinidogion Cymru gyfarwyddo ysgolion o’r fath i ffedereiddio.
38.Mae’r adran hon yn yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo ysgolion sy’n peri pryder i ffedereiddio. Mae’n gwneud hyn drwy fewnosod adran 18B newydd ym Mhennod 4 o Ran 1 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ymyrryd mewn ysgolion yng Nghymru sy’n peri pryder).
39.Mae’r adran 18B(1) a (2) newydd yn esbonio beth a olygir wrth ‘ysgol sy’n peri pryder’ at ddibenion y pŵer hwn i ymyrryd. Mae’n cynnwys - ysgol sy’n destun mesurau arbennig; ysgol sydd angen gwelliant sylweddol; ysgol lle y mae safonau perfformiad y disgyblion yn annerbyniol o isel; ysgol lle y cafwyd methiant difrifol ym maes rheoli neu lywodraethu sy’n niweidio neu’n debyg o niweidio safonau perfformiad; ysgol lle y mae diogelwch y disgyblion neu’r staff o dan fygythiad; ac ysgol sy’n methu â chydymffurfio â gorchymyn ynghylch tâl ac amodau athrawon.
40.Mae is-adran (3) o’r adran 18B newydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu, ac mae is-adran (4) yn nodi’r gwahanol fathau o drefniadau y cânt gyfarwyddo yn eu cylch. Mae’r rhain yn cynnwys ffedereiddio ysgol sy’n peri pryder ag un neu fwy o ysgolion eraill neu â ffederasiwn sy’n bodoli eisoes, a chyfarwyddo ysgol sy’n peri pryder i ymadael â ffederasiwn.
41.Mae is-adran (5) o’r adran 18B newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â chyrff penodol cyn gwneud cyfarwyddyd ac mae is-adrannau (6) a (7) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwneud, amrywio a dirymu cyfarwyddiadau, gan gynnwys darpariaeth bod cyfarwyddiadau o’r fath yn orfodadwy drwy orchymyn mandadol yr Uchel Lys.
42.Mae adran 16 o’r Mesur arfaethedig hefyd yn diwygio adran 14(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel na chaiff awdurdod lleol arfer ei bwerau ymyrryd mewn perthynas ag ysgol sy’n peri pryder os yw Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer ymyrryd yn yr adran 18B newydd.
43.Mae’r adran hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar ffedereiddio y bydd rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru roi sylw iddynt, wrth arfer eu swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 2 o’r Mesur.
44.Mae’r adran hon yn caniatáu gwneud rheoliadau sy’n addasu Pennod 4 o Ran 1 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ymyrryd mewn ysgolion sy’n peri pryder) ac adrannau 49 – 51 ac Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (dirprwyo ariannol) o ran y modd y’u cymhwysir i ffedereiddio ysgolion. Gallai rheoliadau o dan yr adran hon ddarparu, er enghraifft, pan geir amodau penodol sy’n ysgogi pwerau ymyrryd mewn un ysgol o fewn ffederasiwn ond nid mewn ysgolion eraill, y gellid, er gwaethaf hynny, arfer y pwerau ymyrryd hynny mewn perthynas â’r corff llywodraethu. Mae adran 18 yn caniatáu hefyd gwneud rheoliadau i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â gwahanol gategorïau o ysgolion. Bydd rheoliadau o’r fath yn egluro sut y cymhwysir y ddeddfwriaeth honno i ysgolion sydd o fewn yr un ffederasiwn ond yn perthyn i wahanol gategorïau .
45.Mae’r adran hon yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adrannau 19 ac 20 o Ddeddf Addysg 2002, fel bod y darpariaethau hynny’n cyfeirio at ffederasiynau o dan y Mesur. Mae’n cyfyngu’r modd y mae adrannau 24, 25 a 29 o Ddeddf Addysg 2002 yn gymwys i Loegr am eu bod wedi eu disodli, yn achos Cymru, gan y ddarpariaeth a wnaed gan y Bennod hon. Mae’r adran hon hefyd yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 2002 i’w gwneud yn glir, os bydd ysgol mewn ffederasiwn yn cau a bod mwy nag un ysgol ar ôl yn y ffederasiwn, ni fydd corff llywodraethu’r ffederasiwn yn cael ei ddiddymu’n awtomatig.
46.Mae’r adran hon yn gwneud mân ddiwygiad a diwygiad canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005 fel ei bod yn cyfeirio at ffederasiynau o dan y Mesur hwn.
47.Mae is-adran (1) yn diffinio termau a ddefnyddir ym Mhennod 1 o Ran 2 o’r Mesur. Mae is-adran (2) yn darparu ar gyfer dehongli termau a ddefnyddir mewn unrhyw ddeddfiad mewn perthynas ag ysgol ffederal, gan bennu, er enghraifft, fod cyfeiriad mewn deddfwriaeth at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn cael effaith, mewn perthynas â ffederasiwn, fel pe bai’n gyfeiriad at gorff llywodraethu ffederasiwn.
48.Mae is-adrannau (1) a (2) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir yng Nghymru, er mwyn galluogi’r llywodraethwyr i gyflawni eu swyddogaethau.
49.Mae is-adrannau (3) a (4) yn darparu y caiff rheoliadau wneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn sicrhau (yn ddi-dâl) y ddarpariaeth o hyfforddiant a ragnodir ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.
50.Mae is-adran (6) yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol ddarparu hyfforddiant i lywodraethwyr i’w galluogi i gyflawni eu swyddogaethau.
51.Mae rheoliadau o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer penodi clerc i gorff llywodraethu. O dan adran 22 o’r Mesur hwn, rhaid i awdurdod lleol roi gwybod i’r corff sy’n penodi’r clerc y caiff ofyn i’r awdurdod lleol ddarparu person i weithredu fel y clerc. Caiff rheoliadau wneud yn ofynnol, pan wneir cais o’r fath gan gorff o’r fath, bod yr awdurdod lleol yn darparu clerc, a darperir ar gyfer talu am ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.
52.Caiff rheoliadau o dan yr adran hon osod dyletswydd ar y corff sy’n penodi clerc i gorff lywodraethu (yn unol â rheoliadau o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002). Y ddyletswydd y ceir ei gosod yw sicrhau bod y person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant hyd at safon a bennir yn y rheoliadau. Mae is-adran (3) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â hyfforddi clercod.
53.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i sicrhau’r hyfforddiant yr ystyria’n briodol ar gyfer clercod i gyrff llywodraethu.
54.Mae Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sefydlu, newid a dirwyn i ben ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae adran 28 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno yn gwneud darpariaeth ynghylch cynigion ar gyfer sefydlu a newid ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol ac ysgolion meithrin a gynhelir, ac ynghylch gweithredu’r cynigion hynny. Mae’r adran hon yn diwygio adran 28 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, drwy ddiddymu gallu awdurdodau leol neu hyrwyddwyr eraill i sefydlu ysgol sefydledig newydd yng Nghymru. Mae’r adran hon hefyd yn diddymu gallu Gweinidogion Cymru i gynnig sefydlu ysgol sefydledig ar gyfer disgyblion dros 16 mlwydd oed.
55.Yn Atodlen 8 i Ddeddf 1998 gwneir darpariaeth sy’n galluogi ysgolion yng Nghymru i newid eu categori. Mae adran 26 o’r Mesur hwn yn diwygio Atodlen 8 i Ddeddf 1998, gan ddiddymu gallu awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i gynnig bod ysgol yn newid ei chategori er mwyn dod yn ysgol sefydledig. Ni fydd hyn yn rhwystro ysgol sy’n ysgol sefydledig ar hyn o bryd rhag newid ei chategori er mwyn bod mewn categori gwahanol.
56.Mae adran 28 yn cynnwys darpariaethau arbed. Nid yw’r diwygiadau a wneir gan adran 25 yn effeithio ar unrhyw gynnig i sefydlu ysgol sefydledig newydd, a gyhoeddwyd cyn bod adran 25 wedi dod i rym ac nad yw wedi ei weithredu. Bydd cynnig o’r fath, felly, yn parhau i gael ei drin o dan adran 28 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan adran 25 wedi dod i rym.
57.Mae adran 29 yn cynnwys darpariaethau arbed. Nid yw’r diwygiadau a wneir gan adran 26 yn effeithio ar unrhyw gynnig ar gyfer newid categori ysgol i gategori arall a gyhoeddwyd cyn bod adran 26 wedi dod i rym ac nad yw wedi ei weithredu. Bydd cynnig o’r fath, felly, yn parhau i gael ei drin o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998, fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed gan adran 26 wedi dod i rym.
58.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth yr ystyriant yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn rhoi effaith lawn i adrannau 25 i 28. Caiff gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y pŵer hwn, ymhlith pethau eraill, ddiwygio neu ddirymu is-ddeddfwriaeth.
59.Mae is-adran (1) yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Mesur. Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid darllen y Mesur yn unol â Deddf Addysg 1996. Golyga hynny fod rhaid darllen y diffiniadau yn y Ddeddf honno fel pe baent yn ymestyn ar draws i’r Mesur hwn, a bod darpariaethau cyffredinol y Ddeddf honno yn gymwys i’r Mesur. Er enghraifft, rhestrir “educational functions” awdurdod lleol yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996, ac y mae’r diffiniad hwnnw, felly, yn gymwys i’r term hwnnw ac i “swyddogaethau addysgol” pan ddefnyddir hwy yn y Mesur hwn. Mae’r diffiniadau a bennir yn y Mesur yn drech nag unrhyw rai a ddefnyddir yn Neddf Addysg 1996 os oes gwahaniaeth ystyr (is-adran (3)).
60.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer gwneud gorchmynion a rheoliadau o dan y Mesur drwy offeryn statudol, ac yn pennu gweithdrefnau’r Cynulliad mewn perthynas â’r offerynnau hynny.
61.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chychwyn. Daw adrannau 25 i 33 i rym ddau fis wedi i’r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor. Deuir â darpariaethau eraill y Mesur i rym drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru .
62.Mae is-adran (1) yn darparu mai enw’r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2011. Bydd y Mesur hwn yn cael ei gynnwys yn y restr o Ddeddfau Addysg a gynhwysir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (is-adran (2)). Bydd unrhyw gyfeiriad mewn deddfwriaeth at “y Deddfau Addysg” neu “the Education Acts” yn cynnwys cyfeiriad at y Mesur hwn.
63.Mae’r tabl a ganlyn yn gosod y dyddiadau ar gyfer pob cymal o hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir canfod Cofnod o’r Trafodion a gwybodaeth bellach ynghylch hynt y Mesur hwn ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/proposed_education_wales_measure_2011.htm
Cymal | Dyddiad |
---|---|
Ei gyflwyno | 6 Rhagfyr 2010 |
Cymal 1 - Dadl | 12 Ionawr 2011, 19 Ionawr 2011 (Sesiwn Breifat) |
Cymal 2 - Y Pwyllgor Craffu – ystyried y diwygiadau | 1 Chwefror 2011 |
Stage 3 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn - ystyried y diwygiadau | 2 Mawrth 2011 |
Stage 4 - Cymeradwywyd gan y Cynulliad | 29 Mawrth 2011 |
Cymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyfrin Gyngor | 10 Mai 2011 |