RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION
PENNOD 1FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR
I110Ffedereiddio ysgolion gan gyrff llywodraethu
1
Mae'r adran hon yn gymwys i gyrff llywodraethu—
a
dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir,
b
ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir, neu
c
dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.
2
Caiff cyrff llywodraethu ddarparu i'w priod ysgolion gael eu ffedereiddio.
3
Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i'r canlynol—
a
cydymffurfio ag unrhyw amodau rhagnodedig, a
b
arfer y pŵer yn unol ag unrhyw weithdrefn ragnodedig.
I211Cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion
1
Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio—
a
dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir;
b
ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir;
c
dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.
2
Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi cynigion a wneir o dan yr adran hon.
3
Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â'r personau canlynol ar y cynigion a gyhoeddir—
a
cyrff llywodraethu ysgolion neu ffederasiynau i'w ffedereiddio;
b
staff yr ysgolion;
c
un neu ragor o gyrff (os oes) yr ymddengys i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau staff yr ysgolion;
d
i'r graddau y mae'n ymarferol, disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion a'u rhieni.
4
Nid yw is-adran (2) na (3) yn gymwys mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig.
5
Mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â chyrff llywodraethu'r ysgolion dan sylw.
6
Ystyr “ysgol fach” yn is-adrannau (4) a (5) yw ysgol a gynhelir sydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig o dan is-adran (1), yn ysgol fach a gynhelir yn ôl y diffiniad mewn gorchymyn o dan adran 15.
7
Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, benderfynu p'un ai—
a
cadarnhau cynigion, gyda neu heb addasiad neu'n ddarostyngedig i ddigwyddiad, neu
b
eu tynnu'n ôl.
8
Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol a gynhelir a honno'n ysgol nad yw'n ei chynnal cyhyd â bod yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol yn cydsynio.
9
Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol cyhyd â bod y personau canlynol yn cydsynio—
a
yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, a
b
yn achos unrhyw ysgol sefydledig neu wirfoddol arall, y person neu'r personau y penodwyd y llywodraethwyr sefydledig ganddynt.
10
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cynigion o dan yr adran hon ac (ymhlith pethau eraill) gwneud darpariaeth ynghylch—
a
sicrhau cydsyniad personau rhagnodedig i wneud, cyhoeddi neu gadarnhau cynigion;
b
yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cynigion, neu sydd i'w darparu mewn perthynas â hwy;
c
cyhoeddi cynigion;
d
ymgynghori ynghylch y cynigion;
e
gwneud gwrthwynebiadau i'r cynigion neu sylwadau ar y cynigion;
f
tynnu'r cynigion yn ôl neu eu haddasu;
g
y modd y mae'r awdurdod lleol i gadarnhau'r cynigion.
I312Gweithredu cynigion o dan adran 11
1
Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion o dan adran 11.
2
Rhaid i gynigion sydd wedi eu cadarnhau gael eu gweithredu gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3), yn ôl eu trefn, i'r graddau (os o gwbl) y mae'r cynigion yn darparu i bob un ohonynt wneud hynny.
3
Dyma'r personau—
a
yr awdurdod lleol sy'n cynnal ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;
b
corff llywodraethu ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;
c
unrhyw bersonau eraill a ragnodir.
4
Rhaid gweithredu cynigion sydd wedi eu cadarnhau fel y'u cadarnhawyd, yn ddarostyngedig i'r is-adrannau a ganlyn.
5
Ar gais personau rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol a wnaeth y cynigion—
a
addasu'r cynigion ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau a ragnodir, a
b
os cafodd unrhyw gadarnhad ei roi yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i'r digwyddiad o dan sylw ddigwydd.
6
Caiff awdurdod lleol a wnaeth y cynigion benderfynu bod is-adran (2) i beidio â bod yn gymwys i'r cynigion os caiff ei fodloni—
a
y byddai gweithredu'r cynigion yn afresymol o anodd, neu
b
bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i'r cadarnhad gael ei roi y byddai'n amhriodol gweithredu'r cynigion.
7
Os yw'n ofynnol o dan reoliadau iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori neu sicrhau cydsyniad unrhyw bersonau a ragnodir cyn gwneud penderfyniad o dan is-adran (6).
I413Corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau
O ran ffederasiwn—
a
rhaid bod ganddo gorff llywodraethu sengl sydd wedi ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu sengl;
b
mewn achosion rhagnodedig, rhaid iddo gael ei drin fel ysgol sengl at ddibenion unrhyw ddeddfiadau a ragnodir, ac eithrio unrhyw ddeddfiad a gynhwysir F1yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (trefniadaeth ysgolion) neu yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (derbyniadau i ysgolion)
I514Rheoliadau mewn perthynas â ffederasiynau
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
a
ynghylch diddymu cyrff llywodraethu adeg ffurfio ffederasiwn;
b
sy'n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn i barhau i fodoli fel corff corfforaethol pan fo un neu ragor o ysgolion yn ymuno â'r ffederasiwn neu'n ymadael ag ef;
c
ynghylch ym mha amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir i ffederasiwn gael ei ddiddymu, neu i un neu ragor o ysgolion ymadael â ffederasiwn;
d
sy'n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn a ddiddymwyd i gael ei ddisodli naill ai gan gyrff llywodraethu ar gyfer pob un o'r ysgolion cyfansoddol neu gan gyrff llywodraethu sy'n cynnwys corff llywodraethu ffederasiwn newydd;
e
ynghylch y trosi o un corff llywodraethu i un arall;
f
ynghylch trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau rhwng cyrff llywodraethu, neu rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu;
g
ynghylch unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â ffederasiynau, ysgolion ffederal neu ffurfio neu ddiddymu ffederasiynau y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.
2
Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(f) mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—
a
darparu bod materion rhagnodedig yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru,
b
cymhwyso gydag addasiadau unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (darpariaethau atodol mewn cysylltiad â throsglwyddiadau o dan y Ddeddf honno), neu
c
gwneud darpariaeth sy'n cyfateb i'r hyn a wnaed gan unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen honno.
I615Dull adnabod at ddibenion y Bennod hon ysgolion bach a gynhelir yng Nghymru
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ddiffinio ysgol fach a gynhelir drwy gyfeirio at nifer penodedig o ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ar ddyddiad penodedig mewn unrhyw flwyddyn.
2
Mae gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys at ddibenion darpariaeth o dan y Bennod hon.
3
Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.
F4I716Ffedereiddio ysgolion sy'n peri pryder drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I817Canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru
Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi sylw i ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.
I918Ffederasiynau: darpariaethau atodol
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth at ddibenion y Bennod hon i addasu unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn—
F6a
Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir), neu
b
adrannau 49 i 51 F5o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 , ac Atodlen 15 iddi (dirprwyo ariannol),
wrth gymhwyso'r ddarpariaeth i ysgolion ffederal neu eu cyrff llywodraethu.
2
Mae'r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (1) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, addasiadau—
a
sy'n galluogi'r pwerau a roddwyd gan y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn yr is-adran honno i gael eu harfer mewn perthynas â'r holl ysgolion mewn ffederasiwn hyd yn oed os nad yw'r amgylchiadau, y mae'r pwerau yn arferadwy drwy gyfeirio atynt, yn bodoli ond mewn perthynas ag un neu ragor o'r ysgolion hynny, a
b
sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosrannu unrhyw gostau neu dreuliau a dynnir gan gorff llywodraethu ffederasiwn.
3
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy'n addasu unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud ag ysgolion o fewn categori penodol, neu â chyrff llywodraethu ysgolion o fewn categori penodol, wrth gymhwyso'r deddfiad i ysgolion sy'n ffurfio rhan o ffederasiwn neu i gyrff llywodraethu ffederasiynau.
4
Yn is-adran (3), mae cyfeiriadau at gategorïau o ysgolion a gynhelir yn gyfeiriadau at y categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
I1019Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2002
1
Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn adran 19—
a
yn is-adran (8), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
b
ar ôl is-adran (8), mewnosoder—
9
In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under this section may include provision with respect to the governing bodies of federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).
3
Yn adran 20—
a
yn is-adran (4), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;
b
ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
4A
In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under subsection (2) may include provision with respect to instruments of government for federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).
4
Yn adran 24—
a
yn is-adran (1)(a), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
b
yn is-adran (1)(b), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
c
yn is-adran (2), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;
d
yn is-adran (4)(g) hepgorer “, or as the case may be the National Assembly for Wales,”;
e
yn is-adran (5)(a) hepgorer “or the National Assembly for Wales”.
5
Yn adran 25(1)—
a
hepgorer paragraff (a);
b
ym mharagraff (b), ar ôl “federated schools” mewnosoder “in England”.
6
Yn adran 39(1), ar ôl “federated school” mewnosoder “in relation to England”.
7
Ym mharagraff 5 o Atodlen 1, ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
1A
Sub-paragraph (1) does not apply if—
a
the school is a federated school in Wales, and
b
immediately after the discontinuance date, there will be more than one other school remaining in the federation.
1B
“Federation” in sub-paragraph (1A) means a group of schools that are federated by virtue of Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011 or were federated by virtue of section 24 before the coming into force of that Chapter, and “federated school” means a school forming part of a federation.
F2I1120Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I1221Dehongli'r Bennod hon
1
Yn y Bennod hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru;
ystyr “ffederasiwn” (“federation”) yw grŵp o ysgolion yng Nghymru sydd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd y Bennod hon neu a oedd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd adran 24 o Ddeddf Addysg 2002 cyn i'r Bennod hon ddod i rym, ac ystyr “ysgol ffederal” (“federated school”) yw ysgol sy'n ffurfio rhan o ffederasiwn;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru sy'n ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig F3... neu ysgol feithrin a gynhelir.
2
Mewn unrhyw ddeddfiad—
a
mae unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn, a
b
mae unrhyw gyfeiriad at offeryn llywodraethu ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu'r ffederasiwn.
PENNOD 2HYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD
I13I1722Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir
1
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.
2
Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i'r graddau nad yw'n ofynnol fel arall i'r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.
3
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.
4
Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
5
Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.
6
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau'r llywodraethwr gael eu cyflawni'n effeithiol.
7
Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
8
Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.
I14I1823Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
1
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i'r awdurdod ddarparu person i'w benodi'n glerc.
2
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i'w benodi os gwneir cais.
3
Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—
a
rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);
b
rhagnodi'r person y mae'n rhaid i'r ffi gael ei thalu drwyddo;
c
darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
I15I1924Hyfforddiant i glercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
1
Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â chorff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002.
2
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r corff sicrhau bod person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig yn ôl safon ragnodedig.
3
Caiff y rheoliadau—
a
gwahardd penodi person nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol;
b
darparu bod person a benodwyd yn glerc, ac nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant, yn cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn cyfnod rhagnodedig;
c
darparu ar gyfer terfynu penodiad clerc nad yw'n cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn y cyfnod hwnnw;
d
rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru;
e
darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
I16I2025Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercod
1
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy'n cael ei benodi'n glerc i alluogi'r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o'r Mesur hwn.
2
Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).
3
Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.