(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i'r awdurdod ddarparu person i'w benodi'n glerc.
(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i'w benodi os gwneir cais.
(3)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—
(a)rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);
(b)rhagnodi'r person y mae'n rhaid i'r ffi gael ei thalu drwyddo;
(c)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
I2A. 23 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2