3Dyletswydd corff addysg i gydlafurioLL+C
(1)Rhaid i gorff addysg ystyried o dro i dro a fyddai arfer ei bwerau cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau eraill.
(2)Os daw corff addysg i'r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu beri iddo gael ei arfer.
(3)Mae'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys i'r cyrff a grybwyllir ym mharagraffau (c) a (d) o adran 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â darparu addysg uwchradd ac addysg bellach sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed.
(4)Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn lleihau effaith y dyletswyddau yn—
(a)adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (cyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed: gweithio ar y cyd);
F1(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F2(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F3(d)adran 65 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 3(4)(b) wedi ei hepgor (1.9.2022 at ddibenion penodedig) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/744), rhl. 1(3), Atod. 2 para. 12(2)(a)
F2A. 3(4)(c) wedi ei hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (O.S. 2021/296), rhlau. 1(2), 8
F3A. 3(4)(d) wedi ei fewnosod (1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/744), rhl. 1(3), Atod. 2 para. 12(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 3 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
I2A. 3 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2