RHAN 1CYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG
I1I25Pwerau cydlafurio
1
Mae gan gorff addysg y pwerau yn is-adran (2) er mwyn cyflawni neu ei gwneud yn hwylus i gyflawni—
a
ei ddyletswydd o dan adran 3,
b
ei ddyletswydd o dan adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,
c
ei ddyletswydd o dan F1adran 65 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021,
d
dyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny.
2
Y pwerau yw—
a
darparu cymorth ariannol (p'un ai ar ffurf grant neu fenthyciad) i unrhyw berson;
b
ymrwymo i drefniadau neu gytundebau ag unrhyw berson;
c
cydweithredu â'r person hwnnw, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;
d
arfer (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd) unrhyw un neu rai o swyddogaethau unrhyw berson ar ran y person hwnnw;
e
gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gydag un neu ragor o gyrff addysg eraill, neu gan un neu ragor o gyrff addysg eraill;
f
gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gan gyd-bwyllgorau dau neu ragor o gyrff addysg;
g
darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;
h
rhannu a defnyddio gwybodaeth er mwyn arfer unrhyw bwerau cydweithio.
3
O ran y pwerau hyn—
a
nid ydynt yn lleihau effaith unrhyw bwerau eraill corff addysg, a
b
maent yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan adran 6.