Mesur Addysg (Cymru) 2011

6Rheoliadau ynghylch y pŵer i gydlafurioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau pan na fo'r ddyletswydd yn adran 3(1) yn gymwys;

(b)yr amgylchiadau pan na fo'n ofynnol i gorff addysg arfer pwerau cydlafurio, neu pan na chaniateir iddo eu harfer;

(c)swyddogaethau corff addysg na chaniateir eu dirprwyo o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);

(d)yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni i arfer pwerau cydlafurio;

(e)y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni o dan drefniadau cydlafurio;

(f)unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol i arfer pwerau cydlafurio.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)bod cyrff addysg yn sefydlu cyd-bwyllgor o'r cyrff hynny at ddibenion trefniadau o dan adran 5(2)(f) (“cyd-bwyllgor”);

(b)penodi personau i wasanaethu ar gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu'r gofynion eraill sy'n ymwneud ag unrhyw benodiadau o'r fath) a'u diswyddo;

(c)penodi clerc i gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu'r gofynion eraill sy'n ymwneud ag unrhyw benodiad o'r fath) a diswyddo'r clerc;

(d)bod cyd-bwyllgor yn penodi un o'u plith i weithredu fel clerc at ddibenion cyfarfod pan fo'r clerc yn methu â bod yn bresennol;

(e)hawliau personau i fynychu cyfarfodydd cyd-bwyllgor;

(f)cyfyngiadau ar bersonau sy'n cymryd rhan mewn trafodion cyd-bwyllgor;

(g)diddymu cyd-bwyllgorau;

(h)is-bwyllgorau i gyd-bwyllgorau (gan gynnwys darpariaeth i swyddogaethau'r cyd-bwyllgor gael eu harfer gan is-bwyllgor a darpariaeth mewn perthynas ag is-bwyllgorau y caniateir ei gwneud mewn perthynas â chyd-bwyllgor o dan yr adran hon);

(i)materion eraill sy'n ymwneud â chyfansoddiad neu weithdrefn cyd-bwyllgor.

(3)Mae'r pŵer yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—

(a)swyddogaethau'r cyrff addysg sydd i'w cyflawni o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);

(b)y cyrff addysg y mae'r swyddogaethau hynny i'w cyflawni ganddynt.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu bod unrhyw ddeddfiad i gael effaith yn ddarostyngedig i'r holl addasiadau angenrheidiol yn y modd y mae'n gymwys mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny a'r cyrff y maent i'w cyflawni ganddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I2A. 6 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2