SCHEDULE 1

PART IIHYSBYSIAD I'W ANFON AT Y CEISYDD WRTH WRTHOD CANIATÅD ADEILAD RHESTREDIG NEU GANIATÅD ARDAL GADWRAETH, NEU WRTH ROI CANIATÅD YN DDAROSTYNGEDIG I AMODAU (I'W HATEGU AR HYSBYSIADAU PENDERFYNU)

2

Os gwrthodir caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth, neu os rhoddir hwy yn ddarostynedig i amodau, naill ai gan yr awdurdod cynllunio lleol neu gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac os yw perchennog y tir yn honni nad oes modd yn awr ddefnyddio'r tir er budd rhesymol yn ei gyflwr presennol ac na ellir peri y gellir ei ddefnyddio er budd rhesymol trwy gyflawni unrhyw weithiau sydd wedi'u caniatáu neu y byddid wedi'u caniatáu, gall gyflwyno i gyngor y dosbarth y lleolir y tir ynddo hysbysiad prynu sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor hwnnw brynu ei ddiddordeb yn y tir yn unol â darpariaethau adran 190 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1971.