xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Article 3
O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i)—
1. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw patrymau presennol y caeau;
2. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â dileu unrhyw wrych, mur neu glawdd (iii) presennol;
3. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â chodi unrhyw ffens newydd;
4. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio ag aredig, gwastatau, ailhadu neu drin tir garw (iv) a gweirgloddiau gwair (v);
5. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw'r gwrychoedd, y muriau a'r cloddiau (iii) dal stoc presennol mewn cyflwr cymwys i ddal stoc gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol;
6. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â symud unrhyw byst llidiardau cerrig presennol;
7. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw a gofalu am bob llyn, pwll dw*r a nant;
8. rhaid i'r ffermwr (ii), wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodwedd archaeolegol neu hanesyddol os yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig am ei bodolaeth;
9. rhaid i'r ffermwr (ii) gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol arall a awdurdodwyd o dan Ran 6 o Atodlen 2 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988(1). Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw ddatblygiad y cyflwynwyd rhybudd sy'n cyfyngu ar y datblygiad a ganiateir mewn perthynas ag ef o dan erthygl 5 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988;
10. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw pob coetir lydanddail (vi) a phrysgwydd;
11. rhaid i'r ffermwr (ii), cyn plannu unrhyw goed at ddibenion amaethyddol, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch lleoli a rheoli'r coed hynny oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
12. rhaid i'r ffermwr (ii), o fewn dwy flynedd ar o*l dechrau'r cytundeb (i), gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli coetir llydanddail (vi) a phrysgwydd oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
13. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â thaenu unrhyw ffwngleiddiad, pryfleiddiad, llysleiddiad, calch neu wrtaith o fewn llain o dir sydd o leiaf ddeg metr o led wrth ymyl cors, gwaun, llyn, pwll dw*r neu nant.Diffiniadau
(i)ystyr “cytundeb” yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987(2);
(ii)ystyr “ffermwr” yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987 ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(iii)ystyr “clawdd” yw clawdd o gerrig neu o bridd sydd y tu mewn i derfyn cae neu sy'n ffurfio terfyn cae;
(iv)ystyr “tir garw” yw gweundir, corsydd, tir gwlyb neu dir glas lled-naturiol;
(v)ystyr “gweirglodd wair” yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid;
(vi)ystyr “coetir llydanddail” yw tir a ddefnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill.
O.S. 1988/1813, diwygiwyd gan O.S. 1989/603.
O.S. 1987/2027, diwygiwyd gan O.S. 1988/173.