Note as to Earlier Commencement Orders

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer ffurf a chynnwys hysbysiadau hawlio tâl cymunedol, ac ar gyfer cynnwys hysbysiadau hawlio trethi, a gyhoeddir gan yr awdurdodau sy'n codi taliadau a threthi (cynghorau dosbarth) yng Nghymru, ac ar gyfer y wybodaeth y mae rhaid ei darparu wrth iddynt gyflwyno'r hysbysiadau hynny.

Pennir ffurfiau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ar gyfer hysbysiadau hawlio tâl cymunedol personol a hysbysiadau hawlio tâl cymunedol safonol (Atodlen 1); a phennir y materion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiadau (Atodlen 2) i'w cynnwys yn yr iaith briodol hefyd (rheoliadau 3 a 6). Defnyddir ffurflenni dwyieithog oni bai bod yr awdurdod sy'n codi'r tâl yn penderfynu'n wahanol (rheoliadau 4 a 7). Lle defnyddir ffurflenni uniaith Gymraeg neu uniaith Saesneg, rhaid i'r awdurdod sy'n codi'r tâl ddarparu cyfieithiad yn yr iaith arall os gwneir cais (rheoliadau 5 ac 8).

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad hawlio tâl cymunedol nodi sut y cyfrifir y swm sy'n daladwy odano (rheoliadau 3 a 6, ac Atodlen 2).

Mae'n ofynnol darparu nodiadau esboniadol i esbonio'r terminoleg a ddefnyddir yn yr hysbysiad hawlio tâl cymunedol (eto yn yr iaith briodol) gyda'r hysbysiad, a chyda chyfieithiad o'r hysbysiad, (rheoliadau 16 a 17, ac Atodlen 4).

Bydd y wybodaeth bellach a anfonir gyda hysbysiad hawlio tâl cymunedol, ymhlith materion eraill, yn cynnwys manylion am bob awdurdod lleol ynghylch sut mae galwadau'r awdurdod sy'n codi'r tâl a'i gyngor sir ar gronfa'r casgliad, ynghyd â'u hawl o ran grant cynnal refeniw a'u dyraniad o'r trethi annomestig, yn cymharu â'r asesiadu o'u gwario safonol a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dosbarthu grantiau o dan Adroddiad Dosbarthu Grant Cynnal Refeniw Cymru (Atodlen 6 Rhan I).

Gall hysbysiad hawlio trethi fod yn Gymraeg neu yn Saesneg neu yn y ddwy iaith, a rhaid darparu cyfieithiad Saesneg neu Gymraeg os gwneir cais (rheoliad 14). Mae'n ofynnol i hysbysiad hawlio trethi gynnwys manylion ynghylch yr hereditamentau y mae'n cyfeirio atynt (gan gynnwys eu gwerthoedd trethiannol), datganiad o'r lluosydd trethu ar gyfer y flwyddyn, a manylion ynghylch sut mae rhyddhad perthnasol rhag trethi'n effeithio ar yr hawliad, (rheoliad 13 ac Atodlen 3). Rhaid anfon gyda hysbysiad hawlio trethi nodiadau esboniadol yn yr iaith briodol (rheoliad 18 ac Atodlen 5). Rhaid hefyd anfon gyda hysbysiad hawlio trethi rywfaint o'r wybodaeth bellach (y cyfeirir ati uchod) a anfonir gyda hysbysiadau hawlio'r tâl cymunedol (Atodiad 6, Rhan II).

Lle bo hysbysiad hawlio tâl cymunedol neu hysbysiad hawlio trethi'n annilys am nad yw, oherwydd camgymeriad, yn y diwyg angenrheidiol neu am ei fod yn methu cynnwys y materion angenrheidiol, bydd hawliadau taliadau odano'n dal i fod mewn grym ar yr amod bod y taliadau wedi'u cyfrif yn gywir (rheoliadau 12 a 15). Mewn achosion o'r fath, rhaid i'r awdurdod sy'n codi'r tâl neu'r dreth gymryd y camau priodol i gywiro'r camgymeriad drwy roi'r hysbysiad i dalwr y tâl yn y diwyg cywir neu (yn ôl y digwydd) drwy roi datganiad cywir o'r materion perthnasol i'r trethdalwr.

Er mwyn galluogi awdurdod sy'n codi tâl neu drethi i ddarparu'r wybodaeth bellach y cyfeirir ati uchod wrth roi ei hysbysiadau, mae'r Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r cynghorau sir roi'r wybodaeth briodol i'r awdurdod sy'n codi'r tâl neu'r trethi (rheoliad 21). Yn hyn o beth, mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth briodol dros dro ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf (y flwyddyn 1990/91).