xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
L. Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—
Rhan 1
sy'n gofyn am wybodaeth am yr eiddo â'r gwaith sydd i'w gyflawni.
Rhan 2
sy'n gofyn am wybodaeth am y diddordeb sydd gennych yn yr adeilad neu mewn fflat yn yr adeilad, ac am y ffordd y'i meddiennir. Mae dwy ran i'r adran hon, a rhaid i bob un sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid lenwi'r Adran berthnasôl yn y rhan hon*.
Rhan 3
sydd mewn dwy adran, a rhaid i chi lenwi un yn unig o'r rhain. Mae Adran A yn gofyn am wybodaeth am deulu ac adnoddau ariannôl y tenantiaid. Rhaid i bob un sy'n cyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid lenwi Adran A y rhan hon.* Mae Adran B yn gofyn am wybodaeth ariannôl oddi wrth landlordiaid.
Rhan 4
sy'n ei gwneud yn ofynnôl amgau amrywiôl ddogfennau gydâ'r cais. Mae'n ofynnôl hefyd i bob un sy'n cyfranogi lofnodi datganiad ynglyn â'r wybodaeth y mae'n ei rhoi yn y cais.
Gwnewch yn siŵr bod pob un sy'n cyfranogi yn cael copiu dyblyg o Rannau 2 a 3 i'w llenwi.