xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

SCHEDULE

FFURFLEN 2CAIS AM GRANT ADNEWYDDU(Enw a chyfeiriad y Cyngor)

PWYSIGDARLLENWCH Y NODIADAU CANLYNOL CYN DECHRAU LLENWI'R FFURFLEN GAIS HON

A.  Rhaid trin pob cyfeiriad at “chi ac eich” yn y ffurflen gais hon— ac eithrio yn Adran A Rhan 3-fel cyfeiriad at yr ymgeisydd am grant.

B.  Ni fydd eich cais yn ddilys oni lenwch hôll rannau perthnasôl y ffurflen hon ac amgáu'r dogfennau angenrheidiôl a fynnir yn Rhan 4.

C.  Fel rheôl, ni thelir y grant os ydych chi, neu unrhyw un arall sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau ar y gwaith cyn i chi gael cymeradwyaeth ysgrifenedig o'r cais hwn. Fel rheôl, fe wrthodir grant os cwblheir y gwaith cyn cymeradwyo'r cais. Nid yw caniatâd cynllunio na chymeradwyaeth o dan y rheôliadau adeiladu yr un peth a chymeradwyo'r grant.

D.  Os ydych yn gwneud cais fel deiliad-berchennog neu denant i wneud gwaith ar eich annedd, rhaid i'r annedd sy'n destun y cais am grant fod, neu rhaid bod bwriad iddo fod, yn unig neu brif breswylfan i chi, neu'n unig neu brif breswylfan i aelod o'ch teulu. Nid yw grant ar gael ar gyfer ail gartrefi neu gartrefi haf.

E.  Os ydych yn meddiannu fflat mewn adeilad, a chithau'n dymuno gwneud gwaith ar eich fflat ac ar rannau cyffredin yr adeilad, gall fod angen i chi gyflwyno mwy nag un dystysgrif o ddaliadaeth at y dyfodôl gyda'ch cais. Os oes gennych denantiaeth eich fflat ag o leiaf bum mlynedd eto i fynd, cewch eich ystyried yn ddeiliad-berchennog mewn perthynas â'r cais am waith ar eich fflat (ac felly dylech gyflwyno tystysgrif deiliad-berchnogaeth), ac fel tenant mewn perthynas â'r cais am waith ar y rhannau cyffredin (a dylech gyflwyno tystysgrif tenant ar gyfer hynny). Er hynny, nid oes angen i chi lenwi ond un adran (Adran A) yn Rhan 2. Os oes gennych ddiddordeb tenant yn eich fflat, nid oes angen i chi ddarparu ond un dystysgrif (tystysgrif tenant).

F.  Os oes gennych forgais, fe allwch gael bod y telerau'n gofyn i chi gael caniatâd eich morgeisiai i wneud cais am grant (neu gyflawni gwaith). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno cais.

G.  Ni allwch wneud cais am grant fel tenant os ydych yn bwriadu prynu prydles yr eiddo neu os ydych eisoes wedi cymryd, neu os ydych yn bwriadu cymryd, tenantiaeth ohono lle mae o leiaf 5 mlynedd yn dal ar ôl. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai'n rhaid i chi wneud cais perchennog (naill ai fel deiliad-berchennog neu landlord).

H.  Os ydych yn denant, gall fod angen caniatâd eich landlord arnoch i wneud y gwaith yr ymdrinir ag ef yn y cais hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael unrhyw ganiatad angenrheidiôl cyn cyflwyno cais. Os yw'r gwaith arfaethedig yn waith ar rannau cyffredin yr adeilad, mae angen i chi hefyd fod a dyletswydd neu bwer i'w gyflawni.

I.  Mae pedair rhan i'r ffurflen hon—

J.  Mae'r cyfeiriadau at nodiadau yn y ffurflenni yn gyfeiriadau at y nodiadau a rifwyd ar ddiwedd y ffurflen.