SCHEDULE

Regulation 4

“SCHEDULE 4EXPLANATORY INFORMATION FOR SUPPLY WITH COMMUNITY CHARGE DEMAND NOTICES

Regulations 16 and 17

PART I

The form of words set out below is prescribed for the purposes of regulations 16 and 17—

EXPLANATORY NOTES

The information given below is to help you to understand your community charge demand. It explains some of the terms which may be used on your demand and in the supporting information.

Personal community charge: This is the community charge which the charging authority (district council) has set for your area. The charging authority sets the charge by taking into account the amount needed by each of your local authorities to finance their spending, after allowing for their income from other sources. District and county councils (but not community or town councils) receive Government grants, and income from the national pool of non-domestic rates, to help fund their spending. (Further information on your district and county councils' finances accompanies your community charge demand.)

Collection adjustment: This is a technical adjustment which the charging authority may make when setting the community charge. An adjustment may be made to take into account such matters as the net cost of people moving on or off the community charges register, the amounts of interest earned or incurred by the collection fund (into which community charges are paid), and the cost of community charges which the charging authority was notable to collect in the previous year.

Community charge reduction: Personal community charge payers in some communities are entitledto relief under the Government’s community charge reduction scheme following the changeover from domestic rates to the community charge. Your charge demand will show the amount of any relief which has been awarded.

Community charge benefits: Your charge demand may show that you have already been awarded community charge benefit. Benefit is available for people with a low income and if you think you might qualify but have not already applied, or want further information, you should contact your district council.

Students: People who are registered as full-time students pay 1/5 of the personal community charge while they are undertaking a full-time course of education. Registered students are not as individuals eligible for community charge benefit but will receive community charge reduction if they are personal chargepayers in a qualifying community. Students who are entitled to community charge reduction will receive 1/5 of the community charge reduction they would have received if they had been liable to the full community charge.

Amounts needed for a standard level of service: These amounts are the Government’s view, for the purpose of sharing out Government revenue support grant, of the appropriate level of spending for the local authorities in your area to enable them to provide broadly a standard level of service, taking into account the particular circumstances of the area. The standard level of service is determined by reference to the total level of revenue spending the Government thinks appropriate for all local authorities in Wales. Local authorities and other spending bodies may decide to provide a different level of service, and they may also vary in their efficiency.

Government revenue support grant: The amount of this grant for each district and county council is calculated on the basis that a standard level of service can broadly be provided everywhere in Wales for the same community charge. Grant is shared out between authorities on the basis of the particular circumstances of their areas. The Government also provides specific grants to help with particular kinds of spending.

Non-domestic rates: The occupiers or owners of non-domestic properties pay non-domestic rates. All non-domestic rates collected in Wales are pooled together and district and county councils receive shares of the money from this pool.

PART II

The form of words set out below is prescribed for the purposes of regulations 16 and 17—

NODIADAU ESBONIADOL

Bwriedir i'r wybodaeth isod eich helpu i ddeall eich ffurflen hawliotâl cymunedol. Mae'n esbonio rhai o'r termau a allai gael eu defnyddio ar eich ffurflen hawlio ac yn y wybodaeth ategol.

Tâl Cymunedol Personol: Dyma'r tâl cymunedol a bennwyd gan yr awdurdod sy'n codi tâl (ycyngor dosbarth) ar gyfer eich ardal. Mae'r awdurdod sy'n codi'r tâl yn pennu'r tâl drwy gymryd i ystyriaeth y swm y mae ei angen ar bob un o'ch awdurdodau lleol i ariannu eu gwariant, a hynny ar ôl caniatau am eu hincwm o ffynonellau eraill. Caiff cynghorau sir a dosbarth (ond nid cynghorau cymuned na chynghorau tref) grantiau gan y Llywodraeth, ac incwm o'r pŵl cenedlaethol o drethi annomestig, i helpu ariannu eu gwariant. (Ceir gwybodaeth bellach am gyllid eich cynghorau sir a dosbarth gyda'ch ffurflen hawlio tâl cymunedol.)

Addasiad casglu: Addasiad technegol yw hwn y gall yr awdurdod sy'n codi'r tâl ei wneud wrth bennu'r tâl cymunedol. Gellir gwneud addasiad er mwyn cymryd i ystyriaeth materion megis cost net pobl yn ymuno â'r gofrestr taliadau cymunedol neu'n symud oddi arni, faint o log a enillwyd neu a dynnwyd gan y gronfa gasglu (y gronfa y telir y taliadau cymunedol i mewn iddi) a chost taliadau cymunedol nad oedd modd i'r awdurdod sy'n codi'r tâl eu casglu yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Gostyngiad tâl cymunedol: Mae gan dalwyr y tâl cymunedol personol mewn rhai cymunedau hawl i gael rhyddhad o dan gynllun gostyngiad tâl cymunedol y Llywodraeth yn sgîl y newid o drethi domestig i'r tâl cymunedol. Bydd eich ffurflen hawlio tâl yn dangos swm unrhyw ryddhad a roddwyd.

Budd-daliadau tâl cymunedol: Gallai'ch ffurflen hawlio ddangos bod budd-dâl tâl cymunedol wedi'i ddyfarnu i chi eisoes. Mae budd-dâl ar gael i bobl sydd ag incwm isel ac os credwch y gallech fod yn gymwys a chithau heb wneud cais hydyn hyn, neu os ydych am gael gwybodaeth bellach, dylech gysylltu â'ch cyngor dosbarth.

Myfyrwyr: Mae pobl sydd wedi'u cofrestru'n fyfyrwyr amser-llawn yn talu 1/5 o'r tâl cymunedol personol tra byddant yn dilyn cwrs addysg amser-llawn. Nid yw myfyrwyr cofrestredig yn gymwys fel unigolion i gael budd-dâl tâl cymunedol ond fe gânt ostyngiad tâl cymunedol os ydynt yn dalwyr tâl personol mewn cymunedau cymwys. Caiff myfyrwyr sydd â hawl i gael gostyngiad tâl cymunedol 1/5 o'r gostyngiad y byddent wedi'i gael pe baent yn gorfod talu'r tâl cymunedol llawn.

Symiau y mae eu hangen ar gyfer lefel safonol o wasanaethau: Y lefelau hyn yw barn y Llywodraeth, at ddibenion rhannu grant cynnal refeniw y Llywodraeth, am y lefel wario sy'n briodol i'r awdurdodau yn eich ardal i'w galluogi i ddarparu lefel weddol gyfartal o wasanaethau, gan gymryd i ystyriaeth amgylchiadau arbennig yr ardal. Pennir y lefel safonol o wasanaethau drwy gyfeirio at gyfanswm y gwario refeniw y cred y Llywodraeth ei fod yn briodol ar gyfer holl awdurdodau lleol Cymru. Gall awdurdodau lleol a chyrff eraill sy'n gwario benderfynu darparu lefel wahanol o wasanaethau, a gallant amrywio hefyd o ran eu heffeithlonrwydd.

Grant y Llywodraeth i gynnal refeniw: Cyfrifir swm y grant hwn ar gyfer pob cyngor dosbarth a sir ar y sail bod modd darparu'r un lefel, yn fras, o wasanaethau ledled Cymru am yr un tâl cymunedol. Rhennir y grant rhwng yr awdurdodau ar sail amgylchiadau arbennig eu hardaloedd. Mae'r Llywodraeth hefyd yn darparu grantiau penodol i helpu gyda mathau arbennig o wario.

Trethi annomestig: Bydd deiliaid neu berchnogion eiddo annomestig yn talu trethi annomestig. Cyfunir yr holl drethi annomestig a gesglir yng Nghymru a chaiff cynghorau dosbarth a sir gyfran o'r arian o'r pŵl hwnnw.”