SCHEDULE 1Welsh versions of forms of words

F1PART 2Welsh version of questions to be put to voters

Annotations:

Person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio

Cwestiynau

1 Person sy’n gwneud cais fel etholwr

(za) Beth yw’ch enw?

(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?

(a) Ai chi yw’r person sydd wedi’i gofrestru ar y gofrestr etholwyr fel a ganlyn ( rhaid i chi ddarllen yn uchel y cofnod cyfan o’r gofrestr)? [R]

(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, ac eithrio fel dirprwy i rywun arall? [R]

2 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy

(za) Beth yw’ch enw?

(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?

(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw yn ymddangos fel A B ar y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R]

(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, naill ai yma neu rywle arall, fel y person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C D? [R]

(c) Ai chi yw gŵr/gwraig, partner sifil, rhiant, tad-cu/mam-gu, brawd/chwaer, plentyn neu ŵyr/wyres C D? [R]

3 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar gyfer etholwr â chofnod dienw (yn hytrach na’r cwestiynau yng nghofnod 2)

(za) Beth yw’ch enw?

(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?

(a) Ai chi yw’r person y mae hawl ganddo bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif ( darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]

(b) A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, yma neu rywle arall, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif ( darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]

(c) A ydych yn ŵr/gwraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn dad-cu/mam-gu, yn frawd/chwaer, yn blentyn neu’n ŵyr/wyres i’r etholwr sydd â’r rhif ( darllenwch yn uchel rif yr etholwr o’r gofrestr) ar y gofrestr etholwyr? [R]

4 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy os na roddir ateb cadarnhaol i’r cwestiwn yng nghofnod 2(c) neu 3(c) (os ydynt yn berthnasol)

A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ar gyfer comisiynydd yr heddlu a throseddu, yma neu rywle arall, ar ran dau berson nad ydych yn ŵr/gwraig, yn bartner sifil, yn rhiant, yn dad-cu/mam-gu, yn frawd/chwaer, yn blentyn neu’n ŵyr/wyres iddynt? [R]

5 Person sy’n gwneud cais fel etholwr y mae cofnod ganddo ar y rhestr pleidleiswyr post

(za) Beth yw’ch enw?

(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?

(a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post?

(b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post?

6 Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y mae cofnod ganddo ar y rhestr dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post

(za) Beth yw’ch enw?

(zb) Beth yw’ch cyfeiriad?

(a) A wnaethoch gais i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?

(b) Pam nad ydych wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?