PART 4Transitional provision relating to products of animal origin, animal by-products and derived products
Amendments to the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011 (Welsh language text)7
1
The Welsh language text of the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 201114 is amended as follows.
2
In regulation 2 (dehongli), at the end insert—
4
Mae gan y termau a ddefnyddir yn Atodlen 6 yr un ystyr ag yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011.
3
In Schedule 5—
a
in paragraph 5—
i
omit sub-paragraph (3A)(b) and the “neu” before it;
ii
omit sub-paragraph (3B);
iii
after sub-paragraph (3A), insert—
3C
Mewn perthynas â’r cynhyrchion perthnasol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) sy’n dod i Gymru o Weriniaeth Iwerddon ar neu ar ôl 31 Ionawr 2024, nid yw’r gofyniad i gael rhaghysbysiad am y nwyddau cyn dod i mewn yn berthnasol os bodlonir yr amod yn is-baragraff (3CH).
3CH
Yr amod yw bod y nwyddau yn nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon sydd, wrth iddynt fynd o Ogledd Iwerddon i Gymru, wedi pasio drwy Weriniaeth Iwerddon ac heb basio drwy unrhyw diriogaeth arall.
iv
after sub-paragraph (4)(b), insert—
c
mae i “nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir gan reoliad 3 o Reoliadau Diffiniad o Nwyddau Cymwys Gogledd Iwerddon (Ymadael â’r UE) 202015.
b
in paragraph (6)—
i
omit sub-paragraph (1)(b)(ii);
ii
after sub-paragraph (1)(b), insert—
ba
o 31 Ionawr 2024—
i
ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i Brydain Fawr mewn unrhyw le yng Nghymru oni bai bod y canlynol yn dod gyda hwynt—
aa
y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o bryd i’w gilydd; neu
bb
pan fyddant yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (1A) neu a restrwyd yn is-baragraff (1B), dogfennau masnachol perthnasol sydd o leiaf yn nodi’r safle y daethant ohono a safle pen y daith ac yn cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a maint y cynnyrch; a
ii
ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys sgil-gynnyrch anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i Brydain Fawr mewn unrhyw le yng Nghymru oni bai bod y canlynol yn dod gyda hwynt—
aa
yn achos nwyddau a restrir yng ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 6 sydd wedi’u nodi ar y dystysgrif iechyd eu bod at ddibenion defnydd (neu ddefnydd o fath) a grybwyllir mewn perthynas â’r nwyddau hynny yng ngholofn 2 y tabl hwnnw, y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o bryd i’w gilydd; neu
bb
mewn unrhyw achos arall, dogfennau masnachol perthnasol sydd o leiaf yn nodi’r safle y daethant ohono a safle pen y daith ac yn cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a maint y cynnyrch.
c
after sub-paragraph (1) insert—
1A
Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(ba)(i)(bb) yw eu bod—
a
yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol; a
b
wedi’u pacio’n ddiogel neu wedi eu selio mewn cynwysyddion glân; ac
c
nad ydynt yn un o’r categorïau canlynol o nwyddau—
i
fformiwla babanod;
ii
fformiwla ddilynol;
iii
bwyd babanod;
iv
bwyd at ddibenion meddygol arbennig;
v
cwyr gwenyn;
vi
paill;
vii
glud gwenyn;
viii
jeli’r frenhines; neu
ix
cynhyrchion sy’n deillio o folysgiaid dwygragennog byw, ecinodermau byw, tiwniogogion byw a boldroediadau morol byw.
1B
Y cynhyrchion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(ba)(i)(bb) yw—
a
Gwladol o dan Erthygl 3(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/275 neu y cyfeirir atynt yn Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw, ac eithrio cynhyrchion a restrir yn is-baragraff (1A)(c)(i) i (iv) a (ix);
b
cynhyrchion llaeth neu gynhyrchion sy’n seiliedig ar golostrwm a gafodd eu trin â gwres fel y cyfeirir atynt ym mhwynt 2(1) o Bennod 2, Adran 9 o Atodlen 3 i Reoliadau 853/2004, ac eithrio llaeth ffres a’r cynhyrchion a restrir yn is-baragraff (1A)(c)(i) i (iv);
c
cynhyrchion pysgodfeydd ffres neu gynhyrchion pysgodfeydd parod sydd—
i
o anifeiliaid gwyllt dŵr croyw neu ddŵr môr o rywogaethau heblaw am deuluoedd y Scombridae, Clupeidae, Engraulidae, Coryfenidae, Pomatomidae, neu Scombresosidae, a
ii
naill ai ddim yn fyw neu ddim yn hyfyw;
ch
gelatin;
d
colagen;
dd
cynhyrchion puredig iawn sy’n dod o anifeiliaid;
e
mêl;
f
braster anifail wedi ei rendro;
ff
criwsion.
d
in sub-paragraph (2), after “is-baragraff (1)(b)” insert “a (ba)”
;
e
after sub-paragraph (2), insert—
3
yn y paragraff hwn—
a
ystyr “cynnyrch sy’n seiliedig ar golostrwm” yw’r hyn a roddir ym mhwynt 2 o Adran 9 o Atodiad 3 i Reoliad 853/2004;
b
ystyr “colagen”, “cynnyrch llaeth”, “cynnyrch pysgodfeydd”, “cynhyrchion pysgodfeydd ffres”, “gelatin” “criwsion”, “cynhyrchion pysgodfeydd parod” a “braster anifail wedi’i rendro” yw’r hyn a roddir yn Atodiad 1 o Reoliad (EC) 853/2004;
c
ystyr “cynhyrchion puredig iawn sy’n dod o anifeiliaid” yw’r cynhyrchion a restrir ym mhwynt 1 o Adran 16 o Atodiad 3 i Reoliad 853/2004;
ch
ystyr “fformiwla babanod”, “fformiwla ddilynol”, “bwyd babanod” a “bwyd at ddibenion meddygol arbennig” yw’r hyn a roddir yn Erthygl 2 o Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewidion deiet cyfan ar gyfer rheoli pwysau16;
d
“ddim yn hyfyw” yn golygu na fyddent yn gallu goroesi fel anifeiliaid byw pe byddent yn cael eu dychwelyd i’r amgylchedd y daethant ohono;
dd
Mae Rheoliad 853/2004 yn golygu Rheoliad (EC) 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid17;
e
“yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol” yn golygu nad oes angen eu cludo neu eu storio ar dymheredd a reolir.
4
After Schedule 5, insert Schedule 6 contained in Schedule 3 to these Regulations.