7.—(1) The Welsh language text of the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011(1) is amended as follows.
(2) In regulation 2 (dehongli), at the end insert—
“(4) Mae gan y termau a ddefnyddir yn Atodlen 6 yr un ystyr ag yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011.”.
(3) In Schedule 5—
(a)in paragraph 5—
(i)omit sub-paragraph (3A)(b) and the “neu” before it;
(ii)omit sub-paragraph (3B);
(iii)after sub-paragraph (3A), insert—
“(3C) Mewn perthynas â’r cynhyrchion perthnasol y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) sy’n dod i Gymru o Weriniaeth Iwerddon ar neu ar ôl 31 Ionawr 2024, nid yw’r gofyniad i gael rhaghysbysiad am y nwyddau cyn dod i mewn yn berthnasol os bodlonir yr amod yn is-baragraff (3CH).
(3CH) Yr amod yw bod y nwyddau yn nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon sydd, wrth iddynt fynd o Ogledd Iwerddon i Gymru, wedi pasio drwy Weriniaeth Iwerddon ac heb basio drwy unrhyw diriogaeth arall.”;
(iv)after sub-paragraph (4)(b), insert—
“(c)mae i “nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir gan reoliad 3 o Reoliadau Diffiniad o Nwyddau Cymwys Gogledd Iwerddon (Ymadael â’r UE) 2020(2).”;
(b)in paragraph (6)—
(i)omit sub-paragraph (1)(b)(ii);
(ii)after sub-paragraph (1)(b), insert—
“(ba)o 31 Ionawr 2024—
(i)ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i Brydain Fawr mewn unrhyw le yng Nghymru oni bai bod y canlynol yn dod gyda hwynt—
(aa)y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o bryd i’w gilydd; neu
(bb)pan fyddant yn bodloni’r amodau yn is-baragraff (1A) neu a restrwyd yn is-baragraff (1B), dogfennau masnachol perthnasol sydd o leiaf yn nodi’r safle y daethant ohono a safle pen y daith ac yn cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a maint y cynnyrch; a
(ii)ni chaniateir mewnforio nwyddau perthnasol sy’n cynnwys sgil-gynnyrch anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i Brydain Fawr mewn unrhyw le yng Nghymru oni bai bod y canlynol yn dod gyda hwynt—
(aa)yn achos nwyddau a restrir yng ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 6 sydd wedi’u nodi ar y dystysgrif iechyd eu bod at ddibenion defnydd (neu ddefnydd o fath) a grybwyllir mewn perthynas â’r nwyddau hynny yng ngholofn 2 y tabl hwnnw, y dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o bryd i’w gilydd; neu
(bb)mewn unrhyw achos arall, dogfennau masnachol perthnasol sydd o leiaf yn nodi’r safle y daethant ohono a safle pen y daith ac yn cynnwys disgrifiad o’r cynnyrch a maint y cynnyrch.”;
(c)after sub-paragraph (1) insert—
“(1A) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(ba)(i)(bb) yw eu bod—
(a)yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol; a
(b)wedi’u pacio’n ddiogel neu wedi eu selio mewn cynwysyddion glân; ac
(c)nad ydynt yn un o’r categorïau canlynol o nwyddau—
(i)fformiwla babanod;
(ii)fformiwla ddilynol;
(iii)bwyd babanod;
(iv )bwyd at ddibenion meddygol arbennig;
(v )cwyr gwenyn;
(vi )paill;
(vii )glud gwenyn;
(viii )jeli’r frenhines; neu
(ix )cynhyrchion sy’n deillio o folysgiaid dwygragennog byw, ecinodermau byw, tiwniogogion byw a boldroediadau morol byw.
(1B) Y cynhyrchion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(ba)(i)(bb) yw—
(a)Gwladol o dan Erthygl 3(1)(a) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/275 neu y cyfeirir atynt yn Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw, ac eithrio cynhyrchion a restrir yn is-baragraff (1A)(c)(i) i (iv) a (ix);
(b)cynhyrchion llaeth neu gynhyrchion sy’n seiliedig ar golostrwm a gafodd eu trin â gwres fel y cyfeirir atynt ym mhwynt 2(1) o Bennod 2, Adran 9 o Atodlen 3 i Reoliadau 853/2004, ac eithrio llaeth ffres a’r cynhyrchion a restrir yn is-baragraff (1A)(c)(i) i (iv);
(c)cynhyrchion pysgodfeydd ffres neu gynhyrchion pysgodfeydd parod sydd—
(i)o anifeiliaid gwyllt dŵr croyw neu ddŵr môr o rywogaethau heblaw am deuluoedd y Scombridae, Clupeidae, Engraulidae, Coryfenidae, Pomatomidae, neu Scombresosidae, a
(ii)naill ai ddim yn fyw neu ddim yn hyfyw;
(ch)gelatin;
(d)colagen;
(dd)cynhyrchion puredig iawn sy’n dod o anifeiliaid;
(e)mêl;
(f)braster anifail wedi ei rendro;
(ff)criwsion.”.
(d)in sub-paragraph (2), after “is-baragraff (1)(b)” insert “a (ba)”;
(e)after sub-paragraph (2), insert—
“(3) yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “cynnyrch sy’n seiliedig ar golostrwm” yw’r hyn a roddir ym mhwynt 2 o Adran 9 o Atodiad 3 i Reoliad 853/2004;
(b)ystyr “colagen”, “cynnyrch llaeth”, “cynnyrch pysgodfeydd”, “cynhyrchion pysgodfeydd ffres”, “gelatin” “criwsion”, “cynhyrchion pysgodfeydd parod” a “braster anifail wedi’i rendro” yw’r hyn a roddir yn Atodiad 1 o Reoliad (EC) 853/2004;
(c)ystyr “cynhyrchion puredig iawn sy’n dod o anifeiliaid” yw’r cynhyrchion a restrir ym mhwynt 1 o Adran 16 o Atodiad 3 i Reoliad 853/2004;
(ch)ystyr “fformiwla babanod”, “fformiwla ddilynol”, “bwyd babanod” a “bwyd at ddibenion meddygol arbennig” yw’r hyn a roddir yn Erthygl 2 o Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewidion deiet cyfan ar gyfer rheoli pwysau(3);
(d)“ddim yn hyfyw” yn golygu na fyddent yn gallu goroesi fel anifeiliaid byw pe byddent yn cael eu dychwelyd i’r amgylchedd y daethant ohono;
(dd)Mae Rheoliad 853/2004 yn golygu Rheoliad (EC) 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid(4);
(e)“yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol” yn golygu nad oes angen eu cludo neu eu storio ar dymheredd a reolir.”.
(4) After Schedule 5, insert Schedule 6 contained in Schedule 3 to these Regulations.
S.I. 2011/2379 (W. 252). Schedule 5 was inserted by S.I. 2020/1612 (W. 337) and amended by S.I. 2021/384 (W. 122), 847 (W. 197), 1094 (W. 260) and 1480 (W. 382).
EUR 2013/609, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/651.
EUR 2004/853, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.