The Official Controls (Miscellaneous Amendments) Regulations 2024

Consequential amendments to the Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011 (Welsh language text)

This section has no associated Explanatory Memorandum

15.—(1) The Trade in Animals and Related Products (Wales) Regulations 2011 (Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011)(1) are amended as follows.

(2) In regulation 2(1), at the appropriate place insert—

ystyr “arolygydd pysgod swyddogol” (“official fish inspector”) yw person sydd wedi ei hyfforddi’n addas a benodir yn unol â rheoliad 12;

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinary surgeon”) yw milfeddyg sydd wedi ei hyfforddi’n addas a benodir yn unol â rheoliad 12;..

(3) In Schedule 3(2)—

(a)at the end insert—

Achos 8: nwyddau risg isel sydd wedi eu hesemptio rhag gwiriadau rheolaidd o dan Erthygl 48(h) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol

9.  Nwyddau risg isel sydd wedi eu hesemptio rhag gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol rheolaidd yn unol ag amodau a bennir gan reoliad 10 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygiadau Amrywiol) 2024..

(4) In Schedule 5(3)—

(a)for paragraph 4 substitute—

4.(1) O 30 Ebrill 2024 ymlaen, mae rheoliad 13 yn gymwys mewn perthynas â Chymru—

(a)fel pe bai’r testun presennol wedi ei ailrifo’n baragraff (1); a

(b)ym mharagraff (1) (fel y mae wedi ei ailrifo) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r geiriau “ac eithrio drwy arolygfa ffin sydd wedi ei ddynodi ar gyfer yr anifail neu’r cynnyrch hwnnw”—

ac eithrio—

(a)yn unol â pharagraffau (2) neu (3); neu

(b)mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch, ar ôl i safle rheolaethau’r ffin gael ei ddynodi ar gyfer y cynnyrch o dan sylw, drwy’r safle rheolaethau’r ffin hwnnw.;

(c)fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—

(2) Caiff anifeiliaid byw sy’n dod o drydedd wlad berthnasol barhau i ddod i Gymru drwy unrhyw bwynt mynediad.

(3) Caiff nwyddau perthnasol (ac eithrio anifeiliaid byw) sy’n dod o Weriniaeth Iwerddon, sydd—

(a)yn dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff 1(a) o Atodlen 5, neu

(b)yn dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff 1(b) o Atodlen 5 ac sydd wedi eu clirio i’w cylchredeg yn rhydd o dan ddeddfwriaeth tollau’r Undeb,

ddod i Gymru drwy unrhyw bwynt mynediad..;

(b)in paragraph 5—

(i)for sub-paragraph (1) substitute—

(1) O 30 Ebrill 2024 ymlaen, yn ddarostyngedig i’r rhanddirymiad a bennir yn is-baragraffau (3C) a (3D), mae rheoliad 14(1) i (4) yn gymwys i nwyddau perthnasol—

(a)yn is-baragraff (1) fel pe bai “hysbysu’r awdurdod cymwys mewn perthynas â Chymru am y dyddiad y disgwylir i’r llwyth gyrraedd Cymru” wedi ei roi yn lle’’r geiriau o “drwy’r system” hyd at “safle rheoli ar y ffin” yn yr ail le y mae’n digwydd;

(b)yn is-baragraff (3) fel pe bai “drwy’r system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol” wedi ei fewnosod ar ôl “hysbysiad”;

(c)yn is-baragraff (4)—

(i)fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r geiriau agoriadol—

(4) Yn achos trawslwytho cynhyrchion o bwynt mynediad yng Nghymru i bwynt mynediad neu safle rheolaethau’r ffin arall, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y llwyth hysbysu awdurdod cymwys y gyrchfan am—;

(ii)fel pe bai “y fan lle y bydd y trawslwythiad yn cael ei wirio, os oes angen hynny,”; wedi ei roi yn lle paragraff (b);

(ii)omit sub-paragraphs (2) to (3A);

(iii)in sub-paragraph (3C), for the words from “cynhyrchion” to “is-baragraff (3)” substitute “nwyddau perthnasol”;

(iv)in sub-paragraph (4), omit paragraphs (a) and (b);

(c)in paragraph 6—

(i)in sub-paragraph (1), for paragraph (a) substitute—

(a)o 30 Ebrill 2024 ymlaen—

(i)caniateir i unrhyw wiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol a wneir ar gynhyrchion ddigwydd naill ai yn y pwynt mynediad i Gymru neu yn y gyrchfan a nodir yn y ddogfen fewnforio sy’n cyd-fynd â’r llwyth;

(ii)yn ddarostyngedig i ofynion Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig a Chyfarwyddebau diwygio 64/432/EEC a 93/119/EC a Rheoliad (CE) Rhif 1255/97, caniateir i reolaethau swyddogol mewn perthynas ag anifeiliaid byw ddigwydd yn y gyrchfan a nodir yn y ddogfen fewnforio sy’n cyd-fynd â’r anifeiliaid;

(aa)rhaid i’r gwiriadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) gael eu cynnal ar sail risg neu ar hap ac ar y gyfradd amlder briodol;

(ab)rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth o gynhyrchion sicrhau bod y llwyth yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol ar adeg resymol yn ystod y diwrnod gwaith;

(ac)caiff yr awdurdod cymwys, ar ôl cynnal gwiriad dogfennol ac unrhyw wiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol angenrheidiol ar y llwyth, ddyroddi DMIG sy’n caniatáu mynediad;

(ad)pan nad oes gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â’r llwyth, caiff yr awdurdod cymwys ddyroddi DMIG pan fo mewnforio’r llwyth wedi ei awdurdodi yn unol â’r weithdrefn a bennir yn rheoliad 15(5) i (7);;

(ii)in sub-paragraph (3), after the opening words, insert—

(za)mae i “cyfradd amlder briodol” yr ystyr a roddir i “appropriate frequency rate” gan baragraff 2 o Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;;

(d)in paragraph 7—

(i)the existing text is renumbered as sub-paragraph (1);

(ii)in the renumbered sub-paragraph (1), after “nwyddau perthnasol” insert “sy’n dod o drydedd wlad berthnasol”;

(iii)at the end, insert—

(2) Caiff yr awdurdod gorfodi ymafael mewn unrhyw lwyth sy’n cael ei symud o bwynt mynediad yng Nghymru heb DMIG neu heb awdurdod yr awdurdod cymwys.

(3) Caiff yr awdurdod gorfodi ymafael mewn unrhyw lwyth sy’n cael ei gludo o bwynt mynediad yng Nghymru i gyrchfan ac eithrio’r gyrchfan a bennir yn y DMIG.;

(e)for paragraph 8, substitute—

8.(1) Mae rheoliad 20 yn gymwys fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)—

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys, yn ddarostyngedig i baragraff (1A), mewn perthynas ag unrhyw lwyth o gynnyrch os bydd unrhyw wiriadau a gynhelir yn dangos nad yw’r llwyth yn cydymffurfio â’r canlynol—

(a)gofynion y Rheoliadau hyn, fel y maent yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau trosiannol a bennir yn Atodlen 5; neu

(b)y rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

(1A) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan na chydymffurfir â’r rheolau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1); a

(b)pan fo’r milfeddyg swyddogol neu’r arolygydd pysgod swyddogol (fel y bo’n briodol) yn ystyried bod y diffyg cydymffurfio yn fân a thechnegol ac nad yw’n peri risg i iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, nac i’r amgylchedd.

(1B) Pan fo paragraff (1A) yn gymwys, mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys fel pe bai “caniateir” wedi ei roi yn lle “rhaid”.;.